Skip to Main Content

Mae’r Arweinydd Ysgolion Sy’n Ffocysu ar Gymunedau yn gweithio’n agos gydag ysgolion a chymunedau yn Nhrefynwy a Chas-gwent er mwyn helpu creu cyfleoedd i blant a phobl ifanc i chwarae rhan weithgar yn eu cymunedau lleol a bod y cymunedau yma yn cyfrannu at ddysgu a lles pobl ifanc lleol.

Mae ysgolion sy’n Ffocysu ar Gymunedau yn datblygu partneriaethau ag ystod o fudiadau a’n gwneud gwasanaethau yn fwy hygyrch yn lleol i deuluoedd  a’r gymuned ehangach. Maent yn defnyddio eu cyfleusterau a’u hadnoddau i elwa’r cymunedau y maent yn gwasanaethu, gwella bywydau plant, atgyfnerthu teuluoedd ac adeiladu cymunedau cryfach. Mae hyn yn medru cynnwys agor adeiladau ysgol fel bod clybiau a chymdeithasau lleol yn medru eu defnyddio, agor safleoedd ysgolion fel bod cymunedau ehangach yn medru eu defnyddio ar y penwythnos neu yn ystod gwyliau’r ysgol, neu’n gwahodd y gymuned leol i mewn i’r ysgol er mwyn rhannu sgiliau a hyd yn oed bwyd gyda phlant.   

Os hoffech ddysgu mwy ein gwaith ysgol sy’n ffocysu ar gymunedau, neu’n teimlo eich bod yn medru cyfrannu mewn rhyw ffordd, yna cysylltwch gyda:

Lisa Grant

Community Focused School Lead