Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ynglŷn â chodi premiwm y dreth gyngor ar gyfer anheddau sydd yn wag yn yr hirdymor ac ail gartrefi yn y sir.
Anheddau Gwag Hirdymor
Mae annedd gwag hirdymor yn cael ei ddiffinio fel annedd lle nad oes neb yn byw ynddo ac nid yw’n cynnwys rhyw lawer o ddodrefn, a hynny am gyfnod parhaus am o leiaf blwyddyn. Mae tua 400 o anheddau gwag hirdymor yn y Sir. Ar hyn o bryd rhaid iddynt dalu’r gyfradd lawn o dreth gyngor (100%).
Mae’r Cyngor yn gofyn am farn pobl ynglŷn ag a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar yr anheddau yma sydd yn wag yn yr hirdymor.
Mae’r disgresiwn gan y Cyngor i godi premiwm hyd at 100% (300% o’r 1af Ebrill 2023) ar y gyfradd safonol o dreth gyngor ar eiddo sydd yn wag yn y tymor hir. Byddai premiwm yn golygu y byddai swm ychwanegol o’r dreth gyngor yn cael ei ychwanegu at y swm blynyddol sydd yn ddyledus ar gyfer annedd. Y swm ychwanegol yma yw’r ‘premiwm’ ac mae’n medru bod hyd at 300% o’r ffi flynyddol safonol. Amcan premiwm cartrefi gwag fyddai rhoi cymhelliant i annog meddiannaeth.
O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i Gyngor Sir Fynwy benderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill 2024.
Mae’r Cyngor am glywed eich barn chi ynglŷn ag a ddylid gosod premiwm y dreth gyngor ar eiddo sydd yn wag yn y tymor hir a pha lefel o’r premiwm y dylid gweithredu (e.e. 50%, 100%, 200% ayyb).
Ail Gartrefi
Mae ail gartref yn cael ei ddiffinio fel annedd na sydd yn unig gartref, neu’n brif gartref, ac wedi ei ddodrefnu’n sylweddol. Mae hyn yn medru cynnwys anheddau sydd yn cael eu defnyddio fel tŷ gwyliau neu’n annedd sydd wedi ei etifeddu, ac nid dyma brif gartref y perchennog.
Ar hyn o bryd, mae tua 190 o ail gartrefi yn y sir. Ar hyn o bryd rhaid i’r anheddau yma dalu’r gyfradd lawn o’r dreth gyngor (100%).
Mae’r disgresiwn gan y Cyngor i godi premiwm hyd at 100% (300% o’r 1af Ebrill 2023) ar y gyfradd safonol o dreth gyngor ar ail gartrefi. Byddai premiwm yn golygu y byddai swm ychwanegol o’r dreth gyngor yn cael ei ychwanegu at y swm blynyddol sydd yn ddyledus ar gyfer annedd. Y swm ychwanegol yma yw’r ‘premiwm’ ac mae’n medru bod hyd at 300% o’r ffi flynyddol safonol.
O dan y ddeddfwriaeth, rhaid i Gyngor Sir Fynwy benderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar ail gartrefi cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill 2024.
O dan y ddeddfwriaeth, mae Cyngor Sir Fynwy wedi penderfynu p’un ai a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar eiddo gwag cyn 31ain Mawrth 2023 er mwyn dylanwadu ar ffioedd newydd o’r 1af Ebrill 2024.
Anheddau a fyddai’n cael eu heithrio o bremiwm y dreth gyngor
Mae yna nifer o ddosbarthau esempt, sydd fel arfer yn berthnasol i anheddau sydd yn wag yn y tymor hir a/neu ail gartrefi. Os yw’r eiddo yn disgyn i mewn i un o’r categorïau yma, nid yw’r Cyngor yn medru codi premiwm y dreth gyngor.
YMGYNGHORIAD – Premiymau’r Dreth Gyngor ar gyfer anheddau gwag ac ail gartrefi
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cytuno i gynnal ymgynghoriad ynglŷn â chodi premiwm y dreth gyngor ar gyfer anheddau sydd yn wag yn yr hirdymor ac ail gartrefi yn y sir.
Anheddau Gwag Hirdymor
Mae annedd gwag hirdymor yn cael ei ddiffinio fel annedd lle nad oes neb yn byw ynddo ac nid yw’n cynnwys rhyw lawer o ddodrefn, a hynny am gyfnod parhaus am o leiaf blwyddyn. Mae tua 400 o anheddau gwag hirdymor yn y Sir. Ar hyn o bryd rhaid iddynt dalu’r gyfradd lawn o dreth gyngor (100%).
Mae’r Cyngor yn gofyn am farn pobl ynglŷn ag a ddylid cyflwyno premiwm y dreth gyngor ar yr anheddau yma sydd yn wag yn yr hirdymor.
Mae’r disgresiwn gan y Cyngor i godi premiwm hyd at 100% (300% o’r 1af Ebrill 2023) ar y gyfradd safonol o dreth gyngor ar eiddo sydd yn wag yn y tymor hir. Byddai premiwm yn golygu y byddai swm ychwanegol o’r dreth gyngor yn cael ei ychwanegu at y swm blynyddol sydd yn ddyledus ar gyfer annedd. Y swm ychwanegol yma yw’r ‘premiwm’ ac mae’n medru bod hyd at 300% o’r ffi flynyddol safonol.