Ymgynghoriad ar gau
Diolch i’r holl breswylwyr a busnesau lleol am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad. Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 5 Ionawr 2024
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymestyn y cyfnod ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus y Cynllun Trafnidiaeth Lleol!
Gyda ffocws ar greu rhwydwaith trafnidiaeth gynaliadwy, integredig a hygyrch, mae’r Cyngor yn gofyn am eich barn ar ei weledigaeth, amcanion a fframwaith strategol ar gyfer datblygu rhwydwaith trafnidiaeth Sir Fynwy yn y dyfodol.
Diolch i bawb sydd wedi rhoi adborth hyd yn hyn. Mae’r ymgynghoriad yn parhau i fod ar agor a bydd yn cau am 23:59 ddydd Gwener 5 Ionawr 2024.
Er mwyn gweld y cynigion a rhoi eich adborth, ewch i’r arddangosfa ar-lein yma: mcclocaltransportplan.virtual-engage.com
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi lansio ymgynghoriad ar y Cynllun Trafnidiaeth Lleol (CTLl) gwirfoddol, sy’n canolbwyntio ar ddyfodol trafnidiaeth o fewn y sir.
Nod yr ymgynghoriad hwn yw i dderbyn ac archwilio eich adborth ar ein gweledigaeth, amcanion a fframwaith strategol ar gyfer datblygiad rhwydwaith trafnidiaeth Sir Fynwy yn y dyfodol. Bydd y CTLl hefyd yn helpu i lywio’r Cynllun Datblygu Lleol sy’n cael ei baratoi ar hyn o bryd, a’r Cynllun Trafnidiaeth Rhanbarthol y disgwylir iddo gael ei ddatblygu yn 2024.
Mewn partneriaeth â’n hymgynghorwyr, Arup, rydym wedi datblygu ystafell arddangosfa rithiol, lle gallwch ddod o hyd i wybodaeth am y rhwydwaith trafnidiaeth bresennol a’r rhwydwaith trafnidiaeth arfaethedig yn Sir Fynwy, gan gynnwys sut rydym yn bwriadu creu system drafnidiaeth gynaliadwy integredig sy’n cyfrannu’n gadarnhaol at gyflawni sero net o fewn y sir.
Cymerwch amser i ymweld â’n hystafell arddangosfa rithiol a rhannwch eich adborth ar ein cynigion. Gallwch gael mynediad i’r ystafell yma:
Gallwch ddweud eich dweud drwy gwblhau ein harolwg ar-lein sydd ar gael drwy’r arddangosfa rithiol. Fel arall, gallwch argraffu, cwblhau a dychwelyd copi o’r arolwg, neu ysgrifennu atom gan ddefnyddio’r cyfeiriad post ‘ FREEPOST MCC LOCAL TRANSPORT PLAN’ (nid oes angen stamp) neu drwy e-bost: mcclocaltransportplan@arup.com.
Os hoffech siarad â thîm y prosiect, neu ofyn am gopïau papur, anfonwch e-bost atom: mcclocaltransportplan@arup.com neu ffoniwch 01172401529