Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf. Mae egwyddorion cyfiawnder cymdeithasol yn ganolog i hyn. Mae’r weinyddiaeth bresennol wedi dangos eu hymrwymiad i Gyfiawnder Cymdeithasol drwy benodi Aelod Cabinet newydd dros Gyfiawnder Cymdeithasol a datblygu’r strategaeth Cyfiawnder Troseddol yma sy’n dangos sut y bydd y Cyngor yn mynd i’r afael â diffyg cydraddoldeb yn ein sir er mwyn gwneud i’n cymdeithas weithio’n well. Mae’n rhoi dull gweithredu fydd yn helpu gwella bywydau drwy ddileu rhwystrau a hwyluso cefnogaeth a datrysiadau ymarferol i alluogi ein dinasyddion i wireddu eu potensial llawn.
Ein Diben
Mae gan Gyngor Sir Fynwy ddiben clir. Rydym yn llunio hyn yn unol â nodau ac uchelgeisiau ein partneriaid mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill sy’n rhan o Fwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Sir Fynwy. Mae Cynllun Busnes Corfforaethol Cyngor Sir Fynwy yn rhoi cyfeiriad ac yn nodi’r pethau y byddwn yn gweithio arnynt am y pedair blynedd nesaf, gan fynd â ni i ddiwedd y tymor gwleidyddol yn 2022.
Rydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n cefnogi llesiant y cenedlaethau presennol a chenedlaethau’r dyfodol.
Mae’r diben hwn wrth galon popeth a wnawn i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy a rhannwn hyn gyda’n partneriaid gwasanaethau cyhoeddus fel rhan o’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus. Byddwn yn ystyried datblygu cynaliadwy wrth gynllunio a chyflwyno’r camau gweithredu a nodir yn y cynllun hwn.
Cliciwch yma i weld ein Cynllun Strategaeth Cyfiawnder Cymdeithasol