Er mwyn cydymffurfio gyda safonau sicrwydd talu, fel o 15/02/2018 caiff rhai porwyr, os nad ydynt yn hollol gyfredol, eu hatal rhag cael mynediad i dudalen taliadau ar-lein Sir Fynwy. Os effeithir ar eich porwr cyflwynir sgrîn i chi sy’n cynnwys gwybodaeth ac arweiniad ar sut i ddiewddaru eich porwr rhyngrwyd. Os ydych yn dal i fethu gwneud taliad dull arall yw ffonio ein llinell talu Ffôn Awtomedig – 0800 023 7406
Mae’r dudalen yn rhoi’r holl opsiynau sydd ar gael i dalu eich biliau i’r cyngor.
I dalu un o’r biliau dilynol ar-lein, cliciwch ar y ddolen:
- Treth gyngor
- Trethi busnes
- Gordalu budd-daliadau tai
- Anfonebau’r cyngor (cyf. 7)
- Anfonebau gwasanaethau cymdeithasol
- Casgliadau gwastraff gardd
- Ceisiadau cynllunio
Taliadau ar-lein
Gallwch dalu treth gyngor, trethi busnes, anfonebau’r cyngor a gordaliadau budd-dal tai a yn defnyddio ein gwefan talu diogel ar-lein. Byddwch angen y cyfeirnod o’r bil neu’r anfoneb yr ydych yn ei dalu.
Gallwn dderbyn cardiau debyd a chardiau credyd ac ni chodir ffi am ddefnyddio’r cyfleuster yma.
Ar gyfer taliadau rhent ar gyn dai cyngor, ewch i Tai Sir Fynwy, y sefydliad sy’n awr yn berchen ar y cartrefi hyn.