Skip to Main Content

Mae Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy yn gweithio gyda landlordiaid preifat a pherchnogion eiddo i ddarparu cartrefi o ansawdd da yn Sir Fynwy. Mae’r Gwasanaeth yn cynnwys cynllun prydlesu i warantu incwm i landlordiaid preifat a rhoi sicrwydd.

Sut mae’n gweithio

Bydd Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy yn arwyddo’r brydles yn enw’r Cyngor ac yn talu am yr holl filiau cyfleustodau a Threth y Cyngor. Bydd gan eiddo delfrydol wres canolog (nwy yn ddelfrydol), carpedi, gorchuddion llawr, popty, llenni neu fleindiau, larymau mwg, ffitiadau golau a byddant mewn cyflwr addurnol da. Yn ddelfrydol, bydd eiddo heb ddodrefn. Fodd bynnag, gellir ystyried eiddo wedi’i ddodrefnu’n rhannol neu’n llawn. Mae angen fflatiau 1,2,3 a 4 ystafell wely, tai neu fyngalos ym mhob ardal o Sir Fynwy.

Bydd Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy yn talu cyfraddau cystadleuol ar gyfer eich eiddo, yn dibynnu ar leoliad, cyflwr, a’r galw. Mae’r rhenti hyn wedi’u gwarantu, hyd yn oed os yw’ch eiddo yn wag ac  felly nid oes angen yswiriant gwarant rhent costus.

Byddem yn fwy na pharod i gwrdd â chi i weld eich eiddo (heb rwymedigaeth) a rhoi esboniad llawn o delerau’r Cynllun Prydlesu Preifat.

Beth all y tîm ei wneud i chi?

Gall Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy gynnig gwasanaeth rheoli eiddo a chysylltiadau o ansawdd uwch i chi. Fel ein partner busnes yn y cynllun prydlesu, gall Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy hefyd gynnig:

  • Rhenti cystadleuol a delir yn fisol ymlaen llaw
  • Rhent gwarantedig hyd yn oed os yw’r eiddo yn wag
  • Rhestr eiddo ysgrifenedig lawn a ffotograffau a dynnwyd o’r eiddo cyn i neb fyw ynddo
  • Archwiliadau rheolaidd o’r eiddo gan ein tîm tai lleol
  • Rheolaeth tenantiaeth lawn
  • Gwarant o ddychwelyd yr eiddo yn ei gyflwr gwreiddiol (ac eithrio costau traul)
  • Meddiant gwag gwarantedig ar ddiwedd y brydles
  • Prydles adnewyddadwy (yn amodol ar y cyllid sydd ar gael a’r galw)

< Yn ôl i Dudalen Hafan Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy