Skip to Main Content

Cysylltwch â ni

Yn ystod oriau swyddfa, gellir cysylltu â swyddog ar ddyletswydd drwy ein Llinell Gynghori dros y ffôn, i gael cyngor a gwybodaeth mewn perthynas â thai preifat.

Llinell Gynghori

?Ffôn: 01873 735426  ?T: 01600 775120

E-bost: MLS@monmouthshire.gov.uk

Mae gwasanaethau’r Cyngor ar gyfer landlordiaid preifat yn cael eu darparu drwy staff allweddol yn y Tîm Opsiynau Tai. Gall ein staff cyfeillgar a gwybodus gynnig cyngor a chefnogaeth ynghyd â darparu ystod o wasanaethau rheoli eiddo sydd wedi’u cynllunio a’u bwriadu yn benodol ar gyfer landlordiaid preifat ac maent yn rhan o’n ‘Cynnig Landlord’. Mae’r holl wasanaethau ar hyn o bryd yn rhad ac am ddim. Mae ein tîm o staff lleol i gyd yn weithwyr tai proffesiynol ac maent yn brofiadol iawn o ran rheoli eiddo, cyswllt tenantiaid a chynghori landlordiaid. Mae gan staff wybodaeth fanwl am y farchnad dai leol.

Mae cymorth hefyd ar gael i denantiaid a darpar denantiaid.

Nid yn unig y mae ein gwasanaethau yn rhad ac am ddim, gan eu bod yn rhan o’r Cyngor, mae gan y staff y fantais unigryw o gael cysylltiadau agos â nifer eang o dimau mewnol a sefydliadau allanol fel Budd-dal Tai, Cymorth Tenantiaeth a Chynllun Seren Bond i helpu i ateb ymholiadau neu ddatrys materion yn brydlon ac yn broffesiynol.

Ar ôl ei dderbyn, bydd aelod o’n tîm yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion.

Clare Hamer

Monmouthshire Lettings Services Negotiator

Helen Horton

Senior Accommodation Development Officer

< Gwasanaeth Gosod Sir Fynwy