Help yn Sir Fynwy
Severn Wye – Ynni, cynaliadwyedd, a llesiant yn awr, ac ar gyfer y dyfodol.
Mae tîm cyngor ynni cymunedol Severn Wye ar gael gyda chyngor a chymorth am ddim i wneud yn siŵr eich bod yn gallu cadw’n gynnes ac yn iach gartref. Wedi’u lleoli yn y gymuned yma yn Sir Fynwy, mae ein cynghorwyr ynni yma ar eich cyfer gyda chymorth a chefnogaeth i wresogi a phweru eich cartref yn fforddiadwy. Gallwn helpu gyda phopeth o gyngor ar effeithlonrwydd ynni a dod o hyd i’r tariff ynni cywir, i siarad â’ch cyflenwr os byddwch ar ei hôl hi gyda’ch biliau. Bydd ein cynghorwyr gyda chi yn gwneud yn siŵr eich bod yn teimlo bod gennych reolaeth.
Ffoniwch ein llinell gyngor am ddim ?0800 170 1600 ?Severn Wye
Credyd Pensiwn
Mae Credyd Pensiwn yn rhoi arian ychwanegol i chi i’ch helpu gyda’ch costau byw os ydych dros oedran Pensiwn y Wladwriaeth ac ar incwm isel. Gall Credyd Pensiwn hefyd helpu gyda chostau tai fel rhent tir neu daliadau gwasanaeth.
Efallai y byddwch yn cael cymorth ychwanegol os ydych yn ofalwr, yn anabl iawn, neu’n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc.
Mae Credyd Pensiwn ar wahân i’ch Pensiwn y Wladwriaeth.
Gallwch gael Credyd Pensiwn hyd yn oed os oes gennych incwm neu gynilion eraill neu os ydych yn berchen ar eich cartref eich hun.
Darganfyddwch os ydych yn gymwys i gael Credyd Pensiwn a faint y gallech ei gael.
Bydd angen manylion am:
- eich enillion, budd-daliadau a phensiynau
- eich cynilion a buddsoddiadau
Bydd angen yr un manylion arnoch ar gyfer eich partner os oes gennych un.
Os oes angen rhagor o gyngor/cefnogaeth arnoch gan ddefnyddio’r wefan, cysylltwch â’r Tîm Datblygu Cymunedol.
E-bost: communitydevelopment@monmouthshire.gov.uk
Help gyda Biliau Ynni
Os ydych yn cael trafferth talu eich biliau ynni dylech roi gwybod i’ch cyflenwr ynni cyn gynted ag y gallwch oherwydd efallai y gallant eich helpu i ddod o hyd i ateb.
Mae Llywodraeth y DU yn darparu budd-daliadau prawf modd i helpu gyda chost tanwydd. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y rhain isod:
Taliadau Tywydd Oer – Taliad yw hwn ar gyfer aelwydydd cymwys os yw’r tymheredd cyfartalog lle’r ydych yn byw yn sero gradd Celsius neu’n is am dros 7 diwrnod yn olynol.
Cynllun Gostyngiad Cartrefi Cynnes – Os ydych yn derbyn elfen Credyd Gwarantedig Credyd Pensiwn neu ar incwm isel efallai y bydd gennych hawl i ostyngiad untro oddi ar eich bil trydan.
Cael Help gyda Chostau Byw– cymorth a chyngor gan Lywodraeth Cymru i aelwydydd.
Help ar gyfer Aelwydydd– Menter gan Lywodraeth y DU sy’n darparu cymorth a chyngor i aelwydydd.
Gwresogi Eich Cartref– Mae’r Ymddiriedolaeth Arbed Ynni yn rhoi arweiniad ar systemau gwresogi carbon isel.
ECO4 Flex – Efallai y bydd gennych hawl i gymorth wedi’i ariannu gan grant i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’ch eiddo.
Awgrymiadau Defnyddiol i Arbed Ynni
Mae biliau nwy, trydan a dŵr yn rhan fawr o wariant eich cartref, ac felly mae’n werth ystyried sut y gallwch leihau eich biliau ynni drwy wneud rhai newidiadau syml:
• Gwnewch yn siŵr eich bod ar y tariff mwyaf cystadleuol. Gallai newid eich tariff ynni neu gyflenwr eich helpu i arbed ar eich biliau ac mae OFGEM yn darparu canllaw defnyddiol ar sut i wneud hyn.
• Trowch eich thermostat gwresogi i lawr 1 radd
• Peidiwch â rhwystro’r rheiddiaduron, gan fod hyn yn eu hatal rhag cylchredeg y gwres yn effeithiol.
• Gosodwch fylbiau golau LED ynni effeithlon
• Peidiwch â gadael offer trydanol yn y modd segur/gorffwys, trowch nhw i ffwrdd wrth y plwg.
• Diffoddwch y goleuadau yn yr ystafelloedd nad ydych yn eu defnyddio.
• Tynnwch eich llenni a’ch bleindiau yn y nos ac mae hyn yn helpu i gadw’r gwres i mewn.
• Caewch y drysau i gadw’r gwres yn yr ystafelloedd.
• Defnyddiwch beiriannau golchi a sychwyr yn llawn oni bai bod gennych osodiadau hanner llwyth.
• Os oes gennych hen foeler aneffeithlon, ystyriwch osod boeler gradd A yn ei le (efallai y byddwch yn gymwys i gael arian grant tuag at y gost hon o dan y cynllun ECO4 Flex.
• Os ydych ar fesurydd dŵr, ystyriwch fuddsoddi mewn casgen ddŵr i gasglu dŵr ar gyfer eich gardd neu i olchi eich car.
• Ystyriwch insiwleiddio eich llofft. 270mm yw dyfnder safonol yr inswleiddiad ar hyn o bryd a gallech fod yn gymwys am gymorth i osod deunydd inswleiddio neu ychwanegu at y dyfnder newydd.
• Gwiriwch eich bil bob amser i sicrhau bod y darlleniadau mesurydd yn gywir.
• Ystyriwch newid pen cawod safonol i un sy’n defnyddio dŵr yn effeithlon. Os oes gennych gawod gymysgydd yna gallech osod rheolydd llif cawod.
• Wrth goginio ar hob, defnyddiwch ddigon o ddŵr i ferwi eich bwyd.
Efallai y byddwch yn gymwys i gael cymorth grant ECO4 Flex i wneud gwelliannau effeithlonrwydd ynni i’ch eiddo. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ECO4 flex yma.