Swyddog Derbyniadau Ysgol a Chymorth Cynllunio
Mae cyfle cyffrous wedi codi i Swyddog Cymorth ymuno â’r tîm
Mynediad at Ddysgu yn y rôl fel Swyddog Derbyniadau Ysgol a
Chymorth Cynllunio. Mae’r tîm Mynediad at Ddysgu yn darparu
cefnogaeth i’n hysgolion a’n cymunedau mewn perthynas â
derbyniadau ysgol, prydau ysgol am ddim ac ad-drefnu
ysgolion.
Cyfeirnod Swydd: LLE65
Gradd: BAND D SCP 9 – SCP 13 (£25,119 – 26,873) pro rata
Oriau: 3 diwrnod yr wythnos (22.2 awr yr wythnos)
Lleoliad: Prif leoliad sylfaenol y swydd hon fydd Neuadd y Sir, y Rhadyr, Brynbuga
Dyddiad Cau: 04/10/2024 12:00 pm
Dros dro: Ie – 31 Awst 2025
Gwiriad DBS: Na