Democratiaeth
Rydym yn sefydliad democrataidd a wneir o gynghorwyr etholedig ac rydym yn cyflogi swyddogion sy’n gyfrifol am reoli o ddydd i ddydd.
Ar hyn o bryd (Gorffennaf 2013), rydym dan reolaeth gweinyddiaeth ar y cyd gan gynghorwyr o’r Blaid Geidwadol a’r Democratiaid Rhyddfrydol. Gellir cael mwy o wybodaeth ynghylch agendâu, adroddiadau a chofnodion pwyllgorau ar dudalennau gwybodaeth y cyngor.
Lleoliadau
Yn dilyn cau Neuadd y Sir yng Nghwmbrân, rydym wedi symud yn ôl i’r sir a wasanaethir gennym ac ym Mrynbuga y mae ein pencadlys bellach. Mae gennym hefyd swyddfeydd ym Magwyr yn ogystal â ‘siopau un stop’ lle gall trigolion alw heibio i wneud ymholiadau.
Ein staff
Rydym yn cyflogi tua 4,500 o bobl.
Lle bo modd, mae gan staff eu gliniaduron eu hunain fel y gallwn weithredu polisi o un ddesg i ddau o bobl – mae hyn yn arbed arian ac yn galluogi gweithwyr i weithio ar yr adeg ac yn y lleoliad sy’n gweddu orau iddynt. Yr ethos gweithio ledled y cyngor yw bod gwaith yn rhywbeth yr ydych yn ei wneud, nid rhywle i chi fynd.
Treth
Cyfrannodd trethdalwyr £43 miliwn i’n cyllideb flynyddol yn 2011/12. Mae cyfanswm y dreth gyngor sy’n daladwy yn dibynnu ar nifer o ffactorau, gan gynnwys ein cyllideb, y swm sydd ei angen gan Awdurdod Heddlu Gwent, a’r gyllideb a osodwyd gan bob cyngor cymuned. Ym mand D, roedd y dreth gyngor am 2011/12 yn £1,224.52.
Blaenoriaethau
Ein prif flaenoriaethau ym mhob rhan o’n gwaith yw:
- Sicrhau bod gan bawb fynediad i addysg gwych
- Diogelu pobl sy’n agored i niwed
- Cefnogi economi gref
Ein nod yw bod yn gyngor agored sy’n hawdd mynd ato a chyhoeddir popeth ar ein gwefan o dan y Drwydded Llywodraeth Agored. Rydym hefyd yn anelu at wella o ran gwneud ein data’n agored, sy’n golygu ei fod ar gael mewn fformat sy’n hawdd ei gyrchu. Mae mwy o wybodaeth am hyn ar ein tudalen data agored.