Strydoedd Ysgol newydd yn dod i Sir Fynwy!
Diogelwch Ffordd yn Ysgolion Cynradd Gilwern, Parc y Castell a Gwndy
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cyngor Sir Fynwy wedi gweithio gyda’r ysgol yma i greu Cynllun Ysgol Teithio Llesol penodol i’r ysgol i helpu teuluoedd a staff i deithio’n fwy llesol a’u cefnogi wrth gyflawni’r camau. Mae’r camau gweithredu hyn yn seiliedig ar y problemau a ganfuwyd yn yr ysgol. Er enghraifft, roedd tagfeydd tu allan i bob un o’r ysgolion, yn arbennig yr ardal yn union tu allan i glwydi’r ysgol.
Fel rhan o’r Cynllun Ysgol Teithio Llesol bu’r ysgolion yn gweithio gyda Chyngor Sir Fynwy i weithredu Stryd Ysgol.
Mae Stryd Ysgol yn stryd ger ysgol lle caiff traffig ei gyfyngu ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol. Yr adegau y bydd Stryd Ysgol yw rhwng 8:30am a 9:15am a 2:45pm i 3:45pm, dydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig. Bydd y preswylwyr yr effeithir arnynt yn rhydd i fynd a dod ar yr adegau hyn.
Dylid nodi y bydd cyfyngiadau ar waith yn ystod y cyfnodau hyn a dim ond defnyddwyr dilys tebyg i breswylwyr, deiliaid bathodyn glas a dosbarthu nwyddau hanfodol a ganiateir.
Pam fod hyn yn digwydd?
- Creu cymunedau diogel a hapus -Yr achos mwyaf cyffredin o farwolaeth ar gyfer plant rhwng 5 a 14 oed yw cael eu taro gan gerbyd.
- Ymateb i’r argyfwng hinsawdd
- Aer lân – Traffig ffordd yw achos mwyaf llygredd aer. Plant sy’n dioddef mwyaf o aer ansawdd gwael.
- Annog teithio llesol – gan arwain at well iechyd meddwl a chorfforol.
Un o’r ffyrdd i newid y ffordd y mae pobl yn teithio yw annog pobl i gerdded a seiclo mwy. Cerdded a seiclo yw’r ffyrdd mwyaf glân, iach a rhataf o deithio. Ar gyfer llawer o deithiau byr gallant hefyd fod y cyflymaf, sy’n aml yn wir am deithiau i ac o’r ysgol.
Pwy fydd yn cael mynediad?
- Preswylwyr ar gyfer eu cerbydau eu hunain.
- Deiliaid Bathodyn Glas sydd angen mynediad i’r ysgol.
- Dosbarthu nwyddau hanfodol i gartrefi a’r ysgol.
Sut y caiff y Stryd Ysgol ei monitro?
Gan weithio mewn partneriaeth gyda Vivacity, cafodd synwyryddion eu gosod ers rhai misoedd. Byddant yn dal i weithredu gan ein galluogi i fonitro effaith cau’r Stryd Ysgol.
Beth mae’n ei olygu i fi?
Os yw eich teulu yn teithio’n llesol yn barod: | Os yw eich teulu yn teithio mewn car weithiau: |
---|---|
Parhau i deithio fel ydych fel arfer Gofynnir i chi gofio y gall peth traffig cerbydau yn dal i fod tu allan i’r ysgolion | – A fedrwch ddechrau cerdded, seiclo neu ddefnyddio sgwter o’ch cartref? Hyd yn oed os ceisiwch wneud hynny unwaith neu ddwywaith yr wythnos? – Os yw eich cartref yn rhy bell, a fedrech barcio yn ddiogel ymhellach i ffwrdd a cherdded y 10 munud olaf? Bydd hyn hefyd yn cynyddu faint ydych chi a’ch plant yn ymarfer bob dydd. – A fedrai eich plentyn deithio rhan o’r ffordd yn annibynnol? |
Bydd y Stryd Ysgol yn creu amgylchedd mwy diogel ar gyfer eich plant a chymuned yr ysgol drwy ostwng nifer y cerbydau sy’n teithio heibio’r ysgol. Mae’n gyffrous iawn y bydd gan eich ysgol Stryd Ysgol ac y bydd yn lle mwy diogel i fynd iddo. Gofynnwn i chi ein helpu i’w chadw’n ddiogel drwy deithio mor llesol ag y medrwch.