Skip to Main Content

Hoffech chi ostwng eich biliau ynni wrth gynhyrchu eich trydan glân eich hun? Mae Cyngor Sir Fynwy yn cynnig cyfle i drigolion osod paneli solar o ansawdd uchel am bris cystadleuol, bydd yn helpu ni weneud Sir Fynwy yn tecach ac gwyrddach, ac helpu wneud Cymru tuag at fod yn sero net erbyn 2050.

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi partneru ag iChoosr Ltd, sy’n arbenigwyr annibynnol mewn prynu ar y cyd, i ddod â Solar Together i berchnogion tai y sir.

Mae Solar Together yn gynllun newydd arloesol Prifddinas Ranbarth Caerdydd, sy’n cynnig paneli ffotofoltäig solar a batris storio o ansawdd uchel. Mae’n gynllun prynu ar y cyd, sy’n dod ag aelwydydd ledled y Fro ynghyd i gael paneli solar o ansawdd uchel am bris cystadleuol, gan eich helpu drwy’r broses a’ch hysbysu ar bob cam


Mae gosodiadau ffotofoltäig solar yn cael eu hystyried yn ‘ddatblygiad a ganiateir’ ac yn gyffredinol ni fydd angen caniatâd cynllunio. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, megis mewn Ardaloedd Cadwraeth ac ar Adeiladau Rhestredig, efallai y bydd angen caniatâd cynllunio. Am gyngor cynllunio, ewch i www.monmouthshire.gov.uk/cy/cynllunio-3/

Gallwch hefyd gofrestru i gael batris storio wedi’u hychwanegu at eich paneli solar presennol i wneud yn fawr o fanteision eich system.

Cofrestwch heddiw yma:

1. Cofrestru:

Gallwch gofrestru am ddim a heb rwymedigaeth yn https://solartogether.co.uk/monmouthshire/home. I gofrestru, rydych chi’n darparu manylion am eich to, fel ei faint a’i gyfeiriad. 

2. Ocsiwn:

Bydd ocsiwn lleihau pris yn cael ei gynnal lle bydd ein gosodwyr solar wedi’u gwirio ymlaen llaw yn cyflwyno cynigion ar gyfer y gwaith. Po fwyaf o bobl sy’n cofrestru, y gorau y dylai’r fargen fod ar gyfer pob cartref. Bydd y gosodwr â’r pecyn mwyaf cystadleuol yn ennill yr ocsiwn. 

3. Argymhelliad personol

Bydd eich argymhelliad personol yn cael eich e-bostio atoch yn seiliedig ar eich manylion cofrestru. Mae hyn yn cynnwys eich costau a manylebau eich system. 

4. Chi sy’n penderfynu

Chi sydd wedyn yn penderfynu a ydych eisiau derbyn eich argymhelliad. Does dim rhwymedigaeth i barhau. Byddwn yn rhoi gwybod i chi faint o amser sydd gennych i dderbyn eich argymhelliad, ac yn eich diweddaru cyn i’r cynllun gau.

5. Gosod

Os byddwch yn derbyn, bydd y gosodwr buddugol yn cysylltu â chi i arolygu eich to a phennu dyddiad gosod. 


Cefnogaeth gan y ddesg gymorth
Mae cymorth ar gael trwy gydol y broses, dros y ffôn a thrwy e-bost a fydd, ynghyd â sesiynau gwybodaeth, yn caniatáu i aelwydydd wneud penderfyniad gwybodus mewn amgylchedd diogel a didrafferth.

Rhagor o wybodaeth 
Am ragor o wybodaeth, ewch i www.solartogether.co.uk/monmouthshire, lle gallwch gofrestru ar gyfer y cynllun a chysylltu â’n desg gymorth. 

Am iChoosr
Sefydlwyd iChoosr yn 2008, ac mae’n berchen yn breifat i ddau gyd-sylfaenydd. Cyn iddo ymuno â marchnad ynni’r DU yn 2012, canolbwyntiodd ar gynlluniau prynu ar y cyd yn yr Iseldiroedd a Gwlad Belg. Mae bellach yn gweithio gydag arweinwyr cymunedol gan helpu aelwydydd i ddewis cyflenwyr ynni ac ynni solar. Fel yn y DU, mae ei weithrediadau yn parhau i dyfu ar draws Ewrop, Gogledd America a Japan.