Dyddiedig y 25ain o Fawrth 2021
Mewn ymateb i’ch adborth, cafodd traffig dwy-ffordd ei ail-gyflwyno i Stryd Mynwy, gydag ardaloedd palmant wedi’u lledu yn cael eu darparu lle y bo’n bosibl, a pharcio a llwytho ar y stryd wedi cael eu cadw cymaint â phosibl. Diben yr ardaloedd palmant sydd wedi’u lledu yw sicrhau bod siopwyr ac ymwelwyr â Threfynwy yn gallu ymbellhau’n gymdeithasol ac felly’n cefnogi busnesau lleol yn ddiogel, yn ogystal â rhoi cyfle i fusnesau wneud cais am drwydded ar gyfer seddi neu arddangosfeydd awyr agored.
Roedd ymdrechion i ffinio’r ardaloedd hyn gan ddefnyddio bolardiau deniadol yn aflwyddiannus oherwydd bod lleiafrif o bobl yn tynnu’r bolardiau i ffwrdd. Cyflwynwyd rhwystrau mawr gwyn wedi’u llenwi â dŵr yn eu lle, ond roedd y rhain hefyd wedi cael eu symud.
Mae cynllun y treial bellach wedi’i osod allan gyda chwrbyn dros dro gyda chefn tarmac. Mae hyn yn cael ei wella gyda phlanwyr a pharcledau. Bydd hyn yn darparu amgylchedd gwell i gerddwyr, gan wneud i’r palmentydd wedi’u lledu deimlo fel mannau i gerddwyr yn hytrach na bod cerddwyr yn teimlo eu bod yn mynd i’r lôn gerbydau. Mae cymaint o leoedd parcio a llwytho â phosib ar y stryd wedi’u cadw, ac mewn ymateb i adborth, bydd y rhain wedi’u harwyddo’n glir. Mae’r Gorchymyn Rheoleiddio Traffig wedi’i ddiwygio i adlewyrchu’r cynllun newydd, ac mae’r mannau parcio bellach yn cael eu gorfodi. Peidiwch, o dan unrhyw amgylchiadau, â cheisio parcio ar yr ardaloedd palmant. Mae hyn yn achosi perygl ac anghyfleustra i gerddwyr.
Yn ddiweddarach eleni byddwn yn ymgynghori ar opsiynau ar gyfer golwg a theimlad Stryd Mynwy yn y dyfodol.
Bydd y seilwaith beicio canlynol yn cael ei osod yn ystod yr wythnosau nesaf:
- 11 Cylchyn Beic Theta (Stryd Mynwy / Stryd Cinderhill / Kings Fee / Canolfan Oldway / Attik a’r Llyfrgell
- Lloches Beicio (ger toiledau cyhoeddus Pont Mynwy)
- 1 Pwmp Beic Cyhoeddus (Sgwâr Agincourt)
- 2 x Rhesel Plannwyr (Sgwâr Agincourt)