Cefnogi busnesau annibynnol
Mae Cyngor Sir Fynwy yn gweithio gyda busnesau lleol i roi cyngor allweddol, dolenni a dogfennau a fydd yn ddefnyddiol i fusnesau lleol wrth iddynt baratoi ar gyfer ailagor. Mae dolenni i ddogfennau yn cynnwys asesiadau risg, cyngor ar iechyd a diogelwch yn ogystal â ffeiliau dylunwaith y gellir eu lawrlwytho ar gyfer posteri, sticeri llawr ac arwyddion, a deunydd i annog pawb i Siopa yn Lleol, Siopa yn Sir Fynwy i gyd ar gael ar y dudalen hon.
Cynlluniwyd ymgyrch Siopa yn Lleol, Siopa yn Sir Fynwy i ddathlu trefi a phentrefi unigryw Sir Fynwy, wrth iddynt weithio i ail-agor a sicrhau adferiad o effaith cyfyngiadau symud Covid-19. Ymunwch a gweithiwch gyda ni i’n helpu i ailfywiogi canol ein trefi a’n pentrefi.
Caiff yr wybodaeth ar y tudalennau hyn ei diweddaru wrth i’r sefyllfa ddatblygu, felly os nad ydych yn gweld popeth rydych yn edrych amdano, dewch yn ôl i chwilio neu mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech i ni ystyried lanlwytho gwybodaeth arall. Sgroliwch lawr am rai cwestiynau cyffredin am ailagor eich busnes ac i ganfod mwy.
Canllawiau’r Llywodraeth
Mae’r canllaw diweddaraf ar gyfer busnesau lletygarwch sy’n paratoi i ail-agor bellach wedi’i ryddhau gan UKHospitality. I gael gwybodaeth am asesiadau risg a meini prawf y mae’n rhaid eu bodloni cyn y gall busnesau ailagor, ewch i https://www.ukhospitality.org.uk/page/WalesGuidance
Mae’r cyngor diweddaraf ar sut y gall eich busnes weithio’n ddiogel yn ystod y pandemig coronafeirws ar gael yn https://llyw.cymru/coronafeirws
Mae’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y gwaith yn golygu ei bod yn ofynnol i chi gymryd camau rhesymol i sicrhau iechyd a diogelwch eich gweithwyr cyflogedig, cwsmeriaid ac ymwelwyr. Mae coronafeirws yn risg i iechyd cyhoeddus ac mae’n rhaid ei reoli er mwyn cydymffurfio gyda’r gyfraith.
Cyn ail-agor mae’n rhaid i chi sicrhau diogelwch eich safle drwy ddilyn y pump cam yma:
- cynnal asesiad risg coronafeirws (Covid-19) yn unol â chanllawiau’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch [https://www.hse.gov.uk/coronavirus/working-safely/index.htm] drwy ymgynghori gyda’ch gweithwyr. Gellir lawrlwytho’r ffurflen asesu risg yma [LINK TO MCC FORM]
- datblygu gweithdrefnau ar gyfer glanhau, golchi dwylo a hylendid
- cymryd pob cam rhesymol i helpu pobl i weithio gartref
- cymryd pob cam rhesymol i gynnal pellter cymdeithasol o ddau fetr lle’n bosibl
- lle na all pobl fod ddau fetr ar wahân, gwneud popeth a fedrwch i reoli risg
Pan fyddwch wedi cwblhau’r camau yma dylech ddangos hysbysiad yn eich safle i ddangos eich bod wedi dilyn yr holl ganllawiau.
Rhestr wirio diogelwch ar gyfer eich safle
Fel rhan o’n pecyn cymorth rydym wedi creu rhestr wirio o fesurau ymarferol i helpu rheoli’r risg pan fydd pobl yn ymweld â’ch safle. Nid yw’r mesurau yn cynnwys popeth ond maent yn fan cychwyn. Mae’n bwysig y caiff unrhyw fesurau a roddir ar waith eu gwirio’n rheolaidd i sicrhau fod eich gweithwyr cyflogedig a’ch cwsmeriaid yn eu deall ac yn cydymffurfio gyda nhw.
Mae’r Cyngor hefyd yn rhoi mesurau ar waith tu allan i siopau a safleoedd busnes i helpu cynnal ymbellhau cymdeithasol diogel a helpu i drefnu ciwiau trefnus.
Ailagor adnoddau
Mae ein pecyn cymorth hefyd yn cynnwys adnoddau i’ch helpu i groesawu cwsmeriaid yn ôl a chyfleu’r mesurau diogelwch angenrheidiol, yn cynnwys sticeri llawr, arwyddion a phosteri.
Grant Addasu Mannau Awyr Agored Canol Trefi
Cafodd y Grant Addasu Mannau Awyr Agored Canol Trefi ei lansio ar 6ed Awst ac mae’n cynnig cyfle i fusnesau sicrhau hyd at £8,000 tuag at welliannau sy’n cyfrannu nid yn unig at y busnesau eu hunain, ond hefyd at amgylchedd ac amwynder canol trefi Sir Fynwy.
Wedi’i ariannu drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, bydd y grant yn galluogi busnesau i fuddsoddi mewn gwelliannau allanol ac offer fel seddi awyr agored, byrddau, cysgodlenni, rhwystrau, planwyr, parcdiroedd, cyflenwad trydan awyr agored, goleuadau a gwresogi.
Y bwriad yw y bydd buddsoddi mewn mesurau fel y rhain yn galluogi busnesau i fasnachu y tu allan, nid yn unig drwy gydol misoedd yr haf ond hefyd yn ystod tymor y gaeaf.
Er y disgwylir y bydd y cynllun grant hwn yn apelio’n bennaf at fusnesau lletygarwch, mae croeso i fusnesau canol tref eraill, sy’n dymuno creu neu wella lle masnachu yn yr awyr agored tra’n galluogi cwsmeriaid i gadw at ymbellhau cymdeithasol yn ddiogel, i gyflwyno eu cynigion i’w hystyried.
Bydd angen i ymgeiswyr fodloni’r meini prawf cymhwysedd ar gyfer y cynllun, y gellir eu gweld ar-lein ar dudalen https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/cyngor-i-fusnesau/
Mwy o wybodaeth a chanllawiau
- ar gyfer y cyngor a’r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer busnesau ewch i https://www.monmouthshire.gov.uk/business-advice/
- ar gyfer cyngor diweddaraf y Llywodraeth ewch i https://gov.wales/coronavirus
- mae Consortiwm Manwerthu Prydain yn cynnwys USDAW (Uned Gweithwyr Siop, Dosbarthu a Chysylltiedig) wedi argymell arferion gweithredu ar gyfer siopau manwerthu ar wahân i siopau bwyd https://brc.org.uk/wrc/
- mae gan Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyngor ar ymbellhau cymdeithasol, cadw busnesau ar agor a gweithgareddau yn y gwaith https://www.hse.gov.uk/coronavirus/working-safely/index.htm
- mae cyngor i fusnesau bwyd, cyngor i ddefnyddwyr, rhewi swmp fwydydd amgylchol ac oeredig, diogelwch bwyd ar gyfer dosbarthu bwyd a diogelwch bwyd ar gyfer y gymuned ar gael ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd https://www.food.gov.uk/
Lawrlwythiadau
Face Coverings Required Poster