Mae llyfrgelloedd Sir Fynwy yn gwahodd pob plentyn rhwng 4 ac 11 oed i ddod yn Arwyr y Byd Gwyllt! Mae Her Ddarllen yr Haf eleni yn ymwneud â natur, llyfrau anhygoel, gwobrau hyfryd, a digon o syniadau ar gyfer gofalu am ein hamgylchedd. Mae’n rhad ac am ddim ac yn hawdd iawn i gymryd rhan.
Mae angen i blant gofrestru yn eu llyfrgell agosaf, lle byddant yn derbyn map plygadwy o Wilderville i gadw cofnod o’u taith Her Darllen yr Haf. Mae plant yn darllen llyfrau llyfrgell o’u dewis eu hunain yn ystod yr haf, gan gasglu sticeri arbennig i gwblhau eu map
I gwblhau’r Her, mae angen i blant ddarllen pedwar llyfr llyfrgell yn ystod gwyliau’r haf. Bydd pob plentyn sy’n cwblhau’r Her yn llwyddiannus yn derbyn gwobrau hyfryd gan gynnwys tystysgrif, medal Arwyr y Byd Gwyllt a chitbag Arwyr y Byd Gwyllt.
Mae gwefan swyddogol yr Her https://summerreadingchallenge.org.uk/ yn cynnal gwobrau digidol, fideos awduron, gemau a mwy i blant eu mwynhau trwy’r haf
Gall plant hefyd gymryd rhan ar-lein yn https://summerreadingchallenge.org.uk
Mae Arwyr y Byd Gwyllt, Her Ddarllen yr Haf 2021 yn cychwyn mewn llyfrgelloedd ledled Sir Fynwy ddydd Sadwrn 10fed Gorffennaf ac yn gorffen ddydd Sadwrn 18fed Medi.
Gall darllen plant gostwng yn ystod gwyliau hir yr haf. Bob blwyddyn mae Her Ddarllen yr Haf yn annog plant i ddal ati i ddarllen ac i ddarganfod llyfrau newydd gwych.
Wedi’i chynhyrchu gan Yr Asiantaeth Ddarllen, mewn partneriaeth â Chronfa Bywyd Gwyllt y Byd DU, mae Her Ddarllen yr Haf flynyddol yn cael ei darparu gan lyfrgelloedd ledled y DU.
Cysylltwch â’ch llyfrgell leol neu dilynwch Hybiau Cymunedol Sir Fynwy ar gyfryngau cymdeithasol i ddarganfod mwy o wybodaeth.
Lluniau © Heath McKenzie 2021