Ydych chi’n ystyried cael ci bach newydd?
Dyma rai ffactorau pwysig i’w hystyried cyn prynu:
- A fedrwch dalu’r gost a’r ymrwymiad sydd eu hangen ar gyfer chi pan ddychwelwch i’r gwaith yn dilyn COVID 19?
- Ymchwilio’r brîd a gwneud yn siŵr fod y brîd yn gweddu i’ch ffordd o fyw e.e. egnïol vs. dim angen llawer iawn o ofal
- Ymchwilio’r bridiwr a gofyn llawer o gwestiynau cyn i chi ymweld
- Gofyn os yw’r ci bach wedi cael triniaeth llyngyr yn rheolaidd ers ei eni
- Sicrhau fod microsglodyn gan eich ci bach (mae hyn yn ofyniad cyfreithiol)
- Sicrhau y bydd y ci bach o leiaf 8 wythnos oed cyn gadael
- Gweld mam y ci bach a gofyn faint yw ei hoed (rhaid iddi fod o leiaf 1 oed)
- Wrth ymweld â’r ci bach, edrych sut mae’n ymwneud gyda’i fam a’r cŵn bach eraill a anwyd yr un amser
- Gofyn pa fwyd y mae’r ci bach yn ei fwyta a sicrhau fod y bridiwr yn rhoi digon o fwyd y ci bach i chi i barhau â’r un diet am ychydig ddyddiau ar ôl mynd gartref
- Peidio byth deimlo dan bwysau i brynu – os nad yw’n edrych yn iawn na’n teimlo’n iawn yna mae’n debyg nad yw yn iawn!
- Os ydych yn penderfynu prynu, trefnu gwiriad iechyd gyda milfeddyg o fewn 48 awr o brynu’r ci bach.