Rheolwr Cynorthwyol
Mae hwn yn gyfle cyffrous i Reolwr Cynorthwyol profiadol
i gymryd rhan wrth sefydlu a rheoli cartref preswyl bach ar gyfer plant wrth i ni geisio
ehangu’r gwasanaeth hwn yn Sir Fynwy. Ynghyd â’r rheolwr, byddwch yn gyfrifol am
reoli’r gwasanaeth o ddydd i ddydd, gan greu amgylchedd diogel, cefnogol ac
ysgogol ar gyfer y plant a’r bobl ifanc a hefyd y tîm staffio.
Rydym yn edrych am rywun sy’n angerddol ac yn ymroddedig i gefnogi plant a phobl
ifanc i ffynnu o fewn amgylchedd cartrefol, gan fod yn eiriolydd cryf dros hawliau a
barn ein plant a phobl ifanc a hyrwyddo eu cyfranogiad a’u hymgyfraniad mewn
gwneud penderfyniadau.
Os yw hyn yn swnio fel swydd gyffrous i chi, cysylltwch â ni i ganfod mwy.
Cyfeirnod Swydd: SCS510
Gradd: BAND H Scp 27 – Scp 31, £37,035- £40,476
Oriau: 37 awr yr wythnos, i gynnwys gwaith shifft/penwythnosau ac ar alw
Lleoliad: Ardal Trefynwy
Dyddiad Cau: 03/01/2025 12:00 pm
Dros dro: Na
Gwiriad DBS: Oes