Gall gwaith a gafodd ei wneud heb ganiatâd gan gorff Rheoli Adeiladu gael ei unioni drwy wneud cais am gais ôl-weithredol. Gall fod angen datgelu neu newid y gwaith cyn y gellir rhoi Tystysgrif Unioni. Cysylltwch â’ch syrfëwr i drefnu ymweliad safle.
Defnyddiwch y ffurflen islaw os oes angen i chi wneud cais am Dystysgrif Unioni:
Ffurflen Gais Unioni – (PDF) – Argraffu ac anfon
Ffurflen Gais Unioni (fersiwn llenwi ar y sgrin)
Ffi Unioni (ceisiadau ôl-weithredol)
Mae’r ffi sydd ei angen wrth gyflwyno cais Unioni yn 100% o’r ffi priodol a restrir yn nhablau A, B neu C yn y ffioedd Rheoli Adeiladu ac eithrio TAW, fodd bynnag ychwanegir premiwm ychwanegol o 50%. Caiff TAW ei eithrio ar y math hwn o gais.
Er enghraifft, bydd trawsnewid atig heb awdurdod (llai na 60m2) yn golygu ffi o £615.00 + 50% premiwm (yn yr achos hwn £307.50) = £922.50