Dod o hyd i bwyntiau gwefru
Defnyddiwch Zap Map i chwilio am leoliadau, brandiau, mathau ac argaeledd pwyntiau gwefru.
Mae Cyngor Sir Fynwy wedi gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan i’w defnyddio gan y cyhoedd yn y meysydd parcio canlynol:
- Araf = yn fras, 6-8 awr o amser gwefru
- Cyflym = yn fras, 3-4 awr o amser gwefru
- Chwim = yn fras, 30 munud o amser gwefru
Lleoliad | Nifer a math | Rhwydwaith codi’r tâl |
Y Fenni: Teras y Drindod, NP7 5BD | 2 ddeuol (Cyflym) | Gwefru Dragon |
Y Fenni: Gorsaf Fysiau, NP7 5HF | 1 ddeuol (Cyflym) | Gwent Energy CIC |
Y Fenni: Lôn Byefield, NP7 5DL | 2 (Cyflym) | Connected Kerb |
Y Fenni: Fairfield, NP7 5SG | 6 (Cyflym) | Connected Kerb |
Cil-y-coed: Ffordd Woodstock, NP26 4FF | 2 ddeuol (Cyflym) | Gwefru Dragon |
Magwyr: Teras y Sycamorwydden, NP26 3EU | 1 ddeuol (Cyflym) | Gwefru Dragon |
Rogiet: Cyffordd Twnnel Hafren, NP26 3UN | 5 ddeuol (Cyflym) | Connected Kerb |
Cas-gwent: Castle Dell, NP16 5GA | 2 ddeuol (Cyflym) | Gwefru Dragon |
Cas-gwent: Stryd Gymreig, NP16 5JA | 1 sengl (Cyflym) | Gwent Energy CIC |
Cas-gwent: Canolfan hamdden, NP16 5LU | 2 (Cyflym) | Connected Kerb |
Tintern: Hen orsaf, NP16 7NX | 1 ddeuol (Cyflym) | Gwent Energy CIC |
Trefynwy: Stryd Glyn Dŵr, NP25 3DF | 2 ddeuol (Cyflym) | Gwefru Dragon |
Brynbuga: Stryd Maryport y De, NP15 1AZ | 4 ddeuol (Cyflym) | Gwefru Dragon |
Brynbuga: Stryd Maryport y Gogledd, NP15 1ED | 2 (Cyflym) | Connected Kerb |
Brynbuga: Neuadd y Sir, NP15 1GA | 4 ddeuol (Cyflym) | Hydra EV |
Goytre: Maes Parcio’r Pentref, NP4 0BL | 2 (Cyflym) | Connected Kerb |
Gilwern: Prif eol heol Heol, NP7 0AJ | 7 (Cyflym) | Connected Kerb |
- Araf = yn fras, 6-8 awr o amser gwefru
- Cyflym = yn fras, 3-4 awr o amser gwefru
- Chwim = yn fras, 30 munud o amser gwefru
Sut ydych chi’n gwefru cerbyd trydan?
Bydd angen cebl plyg-i-blyg cydnaws arnoch a dylai hynny fod wedi’i ddarparu gyda’ch cerbyd.
Creu cyfrif
Yn dibynnu ar frand y gwefrydd, darperir mynediad gwefru drwy daliad digyffwrdd, cerdyn RFID neu drwy wefan neu ap lle gallwch sefydlu eich cyfrif. Gallwch sefydlu eich cyfrif gan ddefnyddio’r dolenni isod:
Ymweld â gwefan Gwefru Dragon
Ymweld â gwefan Gwent Energy CIC
Ymweld â gwefan Connected Kerb
Ymweld â gwefan Hydra EV
Sut i weithredu’r pwynt gwefru
Unwaith y byddwch wedi sefydlu eich cyfrif gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar sut i ddefnyddio’r pwyntiau gwefru ar y wefan neu’r ap rydych yn ei ddefnyddio. Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau cyfarwyddyd isod:
Cyfarwyddiadau Gwent Energy CIC
Cyfarwyddiadau Hyrda EV
Pan fydd y car wedi’i wefru’n llwyr, bydd y gwefru’n dod i ben yn awtomatig. Gellir atal neu stopio gwefru ar unrhyw adeg drwy gyflwyno’r cerdyn RFID neu drwy ddarparu gorchymyn drwy’r ap ffôn clyfar.
Faint mae’n costio?
Ar gyfer gwefru Dragon Charging codir tâl o 35c y kWh. Gellir gwneud taliadau drwy wefan Rhwydwaith Gwefru Dragon.
Ar gyfer pwyntiau a weithredir gan Gwent Energy CIC codir tâl o 30c y kWh.
Gellir dod o hyd i gostau ar gyfer pwyntiau gwefru eraill ar Zap Map
Taliadau parcio: Rydych wedi’ch eithrio rhag taliadau parcio ym meysydd parcio a weithredir gan Gyngor Sir Fynwy os ydych yn gwefru eich cerbyd trydan yn weithredol mewn man gwefru dynodedig.
Rhoi gwybod am broblemau cynnal a chadw
Mae Silverstone Green Energy yn cynnal ac yn gweithredu’r gwefrwyr sy’n rhan o Rwydwaith Gwefru Dragon Charging ar ran y cyngor.
I roi gwybod am unrhyw broblemau gyda phwynt gwefru Dragon Charging defnyddiwch y Llinell gymorth cwsmeriaid Rhwydwaith Gwefru Dragon Charging 24 awr: (01834) 474480.
I roi gwybod am unrhyw broblemau gyda phwynt gwefru Gwent Energy CIC ffoniwch 07943 291229.
I roi gwybod am unrhyw broblemau gyda phwynt gwefru Connected Kerb ffoniwch 0800 0291 696
I roi gwybod am unrhyw broblemau gyda phwynt gwefru Hydra EV ffoniwch
Beth yw’r cynlluniau i atal cerbydau heblaw cerbydau trydan rhag defnyddio’r mannau parcio?
Bydd y Cyngor yn cyflwyno Gorchymyn Rheoleiddio Traffig sy’n cyfyngu ar y defnydd o’r baeau i gerbydau trydan yn unig, am uchafswm arhosiad o 4 awr. Mae Gorchmynion Rheoleiddio Traffig yn caniatáu i’r Cyngor orfodi’r rheoliadau a nodir yn y gorchymyn hwnnw. Pe bai problem lle nad oedd defnyddwyr cerbydau trydan yn gallu cael mynediad i’r pwyntiau gwefru oherwydd parcio gan gerbydau eraill yn y mannau parcio hynny, byddai gennym y gallu i gymryd camau gorfodi. Gallai’r cam gweithredu hwn olygu bod ein swyddogion Gorfodi Sifil yn cyhoeddi Hysbysiad Tâl Cosb i gerbydau sy’n mynd yn groes i’r gorchymyn rheoleiddio traffig.
Pa fath o wybodaeth y bydd yr unedau pwyntiau gwefru yn ei chasglu a sut y caiff ei defnyddio?
Bydd unedau pwyntiau gwefru yn casglu gwybodaeth sy’n ymwneud ag amlder defnydd pwyntiau gwefru a’r defnydd o drydan. Bydd y data’n ddienw a chaiff ei gasglu a’i drosglwyddo (gan ddefnyddio amgryptio) i System Rheoli Pwyntiau Gwefru. Bydd y rhai sy’n lletya unedau pwyntiau gwefru yn gallu cael gafael ar ddata dienw sy’n ymwneud â defnyddio eu hoffer.
Sut cafodd y pwyntiau gwefru cerbydau trydan eu hariannu?
Dyfarnwyd arian grant i Awdurdodau Lleol Gwent gan y Swyddfa Cerbydau Allyriadau Isel (neu OLEV) i dalu hyd at 75% o’r costau i osod pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn meysydd parcio mewn ardaloedd preswyl. Mae’r Awdurdodau Lleol yn ariannu’n gyfatebol y costau 25% sy’n weddill ar gyfer eu safleoedd.