Mae’r ‘Pwyllgor Craffu Lle’ yn ymgysylltu â’r cyhoedd wrth ddylunio polisi a gwasanaethau sy’n siapio’r sir fel lle i fyw ynddo a chyrchfan i ddenu ymwelwyr a busnesau, gan adlewyrchu llais y cyhoedd i’r Cabinet cyn i benderfyniadau gael eu gwneud.
Mae’r pwyllgor hwn yn gyfrwng i’r cyhoedd leisio’u barn ar benderfyniadau mawr, er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i ddod i’w gasgliadau a gwneud argymhellion i’r Cabinet.
Mae Aelodau’n ymgysylltu â’u cymunedau drwy gynnal cyfarfodydd wyneb yn wyneb anffurfiol yn y gymuned neu gynnal arolygon yn eu hardal leol.
Mae’r cyhoedd hefyd yn gallu cyflwyno cyflwyniadau sain, fideo ac ysgrifenedig i’r pwyllgor hwn a mynychu ei gyfarfodydd. I gyfrannu at waith y pwyllgor hwn neu i awgrymu pwnc i graffu arno, cliciwch ar yr adran ‘Cymryd Rhan’ ar y wefan.
Cylch gorchwyl y pwyllgor hwn yw:
“Craffu ar bolisïau a gwasanaethau a ddarperir i drigolion sy’n hyrwyddo diogelwch a lles cymunedol ac sy’n cefnogi cymunedau cynaliadwy a gwydn”.
“Sicrhau bod polisïau a gwasanaethau yn ymateb i anghenion busnesau ac ymwelwyr ac yn hyrwyddo gweithgarwch economaidd”