Mae Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy, Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Cymuned Tyndyrn, Cyngor Cymunedol Tryleg Unedig, Cyngor Cymuned Llanarfan a Chyngor Cymuned Devauden wedi gweithio gydag ymgynghoriaeth ARUP i baratoi adroddiad sy’n edrych ar yr hyn sy’n bwysig a sut y gallai phentrefi Sir Fynwy sydd o fewn Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy i ddatblygu yn y dyfodol.
Ymysg pethau eraill, mae’n sôn am diogelwch ffordd, arwyddion, trafnidiaeth gyhoeddus, twristiaeth a gwahanol faterion eraill sy’n effeithio ar breswylwyr, ymwelwyr, busnesau ac yn y blaen. Mae’r adroddiadau ar gael yma yn y crynodeb ac mewn gwahanol fformatau. Gobeithir y bydd y gwahanol gynghorau ac Ardal Harddwch Naturiol Eithriadol Dyffryn Gwy yn mabwysiadu’r adroddiad ac wedyn y bydd y gwaith yn dechrau ar gyflawni gwahanol agweddau, ond hefyd yn gwirio fod yr argymhellion yn parhau’n perthnasol, angen eu diwygio neu hyd yn oed yn newid. Gan dybio y bydd y cyngor yn cytuno, sefydlir grŵp llywio ar ôl yr etholiadau.