Prif nod y Gwasanaeth Lles Addysg yw gwella presenoldeb ysgolion a sicrhau bod yr holl ddisgyblion yn gallu cael mynediad at yr holl gyfleoedd sydd ar gael iddynt, a chymryd rhan ynddynt.
Mae presenoldeb yn ysgolion Sir Fynwy yn parhau i fod yn dda iawn. Mae data diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos mai’r Presenoldeb Cynradd ar gyfer blwyddyn academaidd 2014/2015 oedd 95.8%, sy’n golygu bod gan Sir Fynwy y gyfradd presenoldeb gorau yng Nghymru.
Gellir dod o hyd i ddata diweddaraf Cynradd Llywodraeth Cymru trwy glicio ar y ddolen atodedig.
Mae data diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos mai’r Presenoldeb Uwchradd ar gyfer blwyddyn academaidd 2015/2016 oedd 94.7%, sy’n golygu bod gan Sir Fynwy y gyfradd presenoldeb 4ydd orau yng Nghymru.
Gellir dod o hyd i ddata diweddaraf Uwchradd Llywodraeth Cymru trwy glicio ar y ddolen atodedig.
Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn gweithio’n agos mewn partneriaeth ag ysgolion, Awdurdodau Lleol eraill a’r holl asiantaethau i hyrwyddo presenoldeb ac ymrwymiad disgyblion. Mae’r Gwasanaeth Lles Addysg yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi lles pobl ifanc. Mae pob aelod o staff o fewn y Gwasanaeth Lles Addysg yn cydymffurfio ag egwyddorion cyfrinachedd ac yn dilyn Prosesau Amddiffyn Plant Cymru Gyfan a’r Polisi Diogelu Lleol.