Skip to Main Content

Bydd cyfyngiad pwysau newydd yn cael ei osod ar y Bont Gadwyni yn Kemeys Commander. Mae’r Bont bron yn 120 oed ac rydym wedi bod yn monitro ei chyflwr ers blynyddoedd lawer i gynnal y cyfyngiad pwysau o 44T. 

Mae Cyngor Sir Fynwy wedi cynnal y cyfyngiad o 44T ers dechrau monitro. Cyflawnwyd hyn trwy gyflwyno goleuadau traffig i leihau’r bont i un lôn lwythog a thrwy gryfhau nifer o’r rhodenni crog sy’n cysylltu dec y bont i’r prif fwa.

Mae’r rhodenni yn un o’r prif heriau o ran y bont, yn enwedig lle maent yn cysylltu â dec y bont. Mae’r rhodenni’n cael eu monitro’n rheolaidd, ac mae lefelau ymyrraeth yn cael eu hamlinellu a rhaid i ni weithredu arnynt pan fyddwn yn cyrraedd y lefelau yma.

Roedd un o’r rhodenni hyn wedi dirywio ers yr arolygiad blaenorol, sydd wedi arwain at yr angen i osod cyfyngiad pwysau o 7.5T.

Rydym wedi a byddwn yn parhau i gynnal archwiliadau a byddwn yn defnyddio’r wybodaeth a gasglwyd i ailasesu cyfanrwydd adeileddol y bont i weld a ellir gwella’r cyfyngiad pwysau hwn yn ddiogel. Mae’r ailasesiad yma ar y gweill ond mae’r  Bont Gadwyni yn strwythur cymhleth i’w ddadansoddi a bydd yn cymryd amser i’w gwblhau a disgwylir y canlyniadau erbyn mis Hydref eleni.

Yn ogystal â’r ailasesiad, byddwn hefyd yn edrych ar yr opsiynau adnewyddu i asesu’r hyn sydd ei angen i ddod â’r strwythur hwn yn ôl i statws anghyfyngedig. Ni fyddwn yn gwybod beth yw cwmpas y gwaith hwn nes bod yr asesiad wedi’i gwblhau, ond mae’n debygol y bydd y rhodenni crog a’r trawstiau’n cael eu hadnewyddu’n llawn.

Mae llwybrau amgen wedi’u nodi ac yn cynnwys mynediad trwy Frynbuga a thrwy Betws-y-newydd. Gellir codi’r cyfyngiad uchder ar bont reilffordd segur B4598 Stryd Porthycarne. Trwy gyfeirio cerbydau i lawr canol y bont, gyda leinin gwyn addas ac arwyddion yn eu harwain, gellir gwella hyn o 11’6” ar hyn o bryd i 13’9”. Bydd y gwrychoedd yn cael eu torri’n ôl cymaint â phosibl a’r canopi coed yn cael clirio. Byddwn hefyd yn lledu’r ffordd lle mae ymylon wedi gordyfu ar y ffordd gerbydau. Bydd mannau pasio presennol yn cael eu gwella cymaint ag sy’n ymarferol.

Mae’r Bont Gadwyni yn adeiledd eiconig ac yn Rhestredig. Bydd angen i unrhyw waith ar y Bont gael ei wneud yn unol â’i statws Rhestredig.