Galwadau am Safleoedd Ymgeisiol
Fel rhan o’r broses o baratoi’r cynllun, gwahoddodd y Cyngor dirfeddianwyr, datblygwyr a’r cyhoedd i gyflwyno ‘safleoedd ymgeisiol’ i’w hystyried ar gyfer eu datblygu, ailddatblygu neu’u gwarchod yng Nghynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA) Sir Fynwy.
Mae Safle Ymgeisiol yn ddarn o dir a gyflwynir i’r Cyngor gan barti â diddordeb (e.e. datblygiad neu dirfeddiannwr) er mwyn i’r Cyngor ystyried y tir at ddiben penodol. Gall Safle Ymgeisiol fod ar gyfer datblygu/ailddatblygu neu’i warchod. Nid oes gan Safle Ymgeisiol statws ac nid yw’n gais cynllunio.
Roedd Cam 1 o’r broses hon yn cynnwys Galwad Cychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol am gyfnod o 16 wythnos rhwng 30ain Gorffennaf 2018 a’r 19eg Tachwedd 2018.
Cynhaliwyd yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol ochr yn ochr â’r ymgynghoriad ar yr ail Strategaeth a Ffefrir ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid rhwng 5ed Gorffennaf 2021 a’r 31ain Awst 2021. Diben hyn oedd caniatáu cyflwyno safleoedd ymgeisiol newydd yr ystyriwyd eu bod yn cydymffurfio â’r Strategaeth a Ffefrir, a chyflwyno gwybodaeth ategol ychwanegol ar gyfer y safleoedd hynny a gyflwynwyd yn ystod y Cais Cychwynnol am Safleoedd sy’n cyd-fynd â’r Strategaeth a Ffefrir ac a fodlonodd yr asesiad lefel uchel.
Cofrestr o’r Safleoedd Ymgeisiol
Mae’r holl safleoedd a gyflwynwyd yn ystod yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol wedi’u cyhoeddi mewn Cofrestr Safleoedd Ymgeisiol sy’n diweddaru ac yn disodli’r gofrestr a gyhoeddwyd yn dilyn yr Alwad Gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol. Nid yw safleoedd na chawsant eu hailgyflwyno yn dilyn yr Alwad Gychwynnol am Safleoedd Ymgeisiol wedi’u cynnwys yn y Gofrestr wedi’i diweddaru.
Mae Mapiau Trosfwaol ar gyfer yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol rhwng 5ed Gorffennaf 2021a’r 31ain Awst 2021 wedi’u creu i ddangos yr ystod o safleoedd ar draws aneddiadau/ardaloedd.
Fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, gwnaethom wahodd sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a restrir yn y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol am gyfnod o wyth wythnos rhwng 5ed Rhagfyr 2022 a’r 30ain Ionawr 2023.
Mae’r Adroddiad Ymgynghori Cychwynnol ar y Strategaeth a Ffefrir a’r Gofrestr o Safleoedd Posibl wedi’i gyhoeddi fel dogfen ategol i’r CDLlA Adnau.
Mae’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol wedi’i diweddaru hefyd yn cynnwys safle ychwanegol ar Dir i’r Dwyrain o’r Fenni 2 (CS0293) a gyflwynwyd fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir.
Asesiad o Safleoedd Ymgeisiol
Mae safleoedd ymgeisiol wedi’u hasesu yn unol â’r fethodoleg a nodir yn y Papur Cefndir Methodoleg Asesu Safleoedd Ymgeisiol. Yn dilyn yr Asesiad Lefel Uchel o Safleoedd Ymgeisiol, cynhaliwyd asesiadau pellach i nodi’r safleoedd hynny sy’n addas i’w cynnwys yn y CDLlA Adnau. Amlinellir canfyddiadau’r broses Asesu Safleoedd Posib yn yr Adroddiad Asesu Safleoedd Ymgeisiol. Dylid darllen y dogfennau hyn ochr yn ochr â’r Gofrestr Safleoedd Ymgeisiol.
Ymgynghoriad ar y Cynllun Adnau
Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) yn ymgynghori ar ei CDLlA Adnau, ynghyd â’r Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig ategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Cymeradwywyd y Cynllun Adnau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus/ymgysylltu statudol yng nghyfarfod y Cyngor ar 24ain Hydref 2024.
Rhaid i unrhyw safleoedd newydd neu ddiwygiedig a gyflwynir fel rhan o sylwadau i’r Cynllun Adnau gynnwys y canlynol:
- Cynllun o’r safle yr ydych yn dymuno iddo gael ei ystyried gyda’ch ffurflen sylwadau, gyda ffin glir i’r safle wedi’i dangos.
- Manylion defnydd arfaethedig y safle.
- Dogfennaeth bod y safle yn cyd-fynd â strategaeth y CDLlA ac y byddai’r Cynllun yn gadarn pe cynhwysir y safle. Mae nodiadau canllaw ar rai o’r asesiadau allweddol sydd eu hangen i gefnogi safleoedd ymgeisiol newydd wedi’u nodi ar dudalen benodol.
- Dylai Arfarniad o Gynaliadwyedd ddod gyda’r safle arfaethedig y mae’n rhaid iddo fod yn gyson â chwmpas, fframwaith a lefel y manylder fel yr Arfarniad o Gynaliadwyedd a gynhaliwyd gan y Cyngor ac a gyhoeddwyd ochr yn ochr â’r CDLlA Adnau.