Cynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Sir Fynwy – Diweddariad Ebrill 2024
Rydym ar hyn o bryd yn gweithio tuag at gam y Cynllun Adnau ym mhroses y CDLlD a fydd yn nodi’r fframwaith polisi manwl a’r dyraniadau defnydd tir ar gyfer Sir Fynwy hyd at 2033.
Y bwriad oedd cyhoeddi’r Cynllun Adnau ddiwedd Gwanwyn 2024. Fodd bynnag, mae’r gwaith o baratoi’r Cynllun Adnau yn mynd rhagddo a disgwylir iddo gael ei gwblhau ym mis Medi 2024. Rhagwelir y bydd adroddiadau gwleidyddol yn gofyn am gymeradwyaeth i’r Cynllun Adnau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus a’r gwaith ymgysylltu/ymgynghoriad statudol dilynol yn digwydd yn hydref 2024, er y bydd hyn yn dibynnu ar amseriad Etholiad Cyffredinol y DU.
Bydd amserlen ddiwygiedig y CDLlD yn cael ei nodi mewn Cytundeb Cyflawni wedi’i ddiweddaru a fydd yn cael ei adrodd i’r Cyngor ar yr un pryd â’r Cynllun Adnau.
Diweddariad Ffosffadau Gorffennaf 2023
Mae diweddariad briffio ffosffadau wedi’i baratoi ar fater amgylcheddol heriol ansawdd dŵr yn yr Afon Gwy a’r Afon Wysg. Mae’r papur hwn yn canolbwyntio ar y goblygiadau i Sir Fynwy o ran cynigion datblygu a datblygiad y Cynllun Datblygu Lleol Amnewid (CDLlA).
Nid oedd y Strategaeth a Ffefrir (Rhagfyr 2022) yn cynnig unrhyw ddyraniadau safle newydd ym mhrif anheddiad Trefynwy, nac o fewn dalgylch Afon Gwy uchaf i’r gogledd o Bont Bigsweir oherwydd diffyg ateb strategol a nodwyd i drin ffosffadau yng Ngwaith Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy (GTDG) o fewn cyfnod y Cynllun. Fodd bynnag, roedd llythyr ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir yn nodi y dylid ystyried dyraniadau safleoedd newydd yn Nhrefynwy ar y sail y darperir digon o sicrwydd gan welliannau arfaethedig Dŵr Cymru i Waith Trin Dŵr Gwastraff Trefynwy erbyn 31 Mawrth 2025.
Mae cael gwared ar y cyfyngiad gofodol hwn yn ardal Trefynwy yn golygu y gall y CDLlA ddyrannu datblygiad tai fforddiadwy newydd yn Nhrefynwy. Cynigir y bydd y Cynllun Adnau yn dynodi safle(oedd) strategol newydd ar gyfer tua 250-300 o gartrefi yn Nhrefynwy. Mae hyn yn ychwanegol at y tri safle etifeddol a nodwyd yn y Strategaeth a Ffefrir sy’n cynnwys 275-290 o gartrefi newydd a ddygwyd ymlaen o’r CDLl mabwysiedig neu ganiatâd/ceisiadau cynllunio presennol ond na sydd wedi medru symud ymlaen oherwydd y cyfyngiad ffosffad:
- dyraniad presennol y CDLl yn Heol Tudur, Wyesham (35 – 50 o gartrefi);
- dyraniad presennol y CDLl yn Fferm Drewen, Trefynwy (110 o gartrefi);
- y caniatâd cynllunio sy’n bodoli yn Heol Rockfield, Trefynwy (70 o gartrefi); a
- dyraniad newydd ar gyfer y 60 o gartrefi sy’n weddill yn Heol Rockfield, Trefynwy.
Bydd yn ofynnol i bob dyraniad safle newydd ddarparu 50% o dai fforddiadwy. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar unrhyw ddyraniadau safle yn ystod y cyfnod y Cynllun Adneuo. Ni allwn dderbyn sylwadau tan yr amser hwn.
Cofrestr o Safleoedd Ymgeisiol
Fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir, roeddem hefyd wedi gwahodd sylwadau ar y safleoedd ymgeisiol a restrir yn y Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol sy’n nodi’r safleoedd a gyflwynwyd yn ystod yr Ail Alwad am Safleoedd Ymgeisiol. Mae’r Gofrestr o Safleoedd Ymgeisiol wedi’i diweddaru i adlewyrchu’r newid yn y dull o ymdrin â’r her ffosffadau yn Nalgylch Afon Gwy Uchaf yn dilyn yr ymgynghoriad diweddar ar y Strategaeth a Ffefrir. Mae safle ychwanegol a gyflwynwyd fel rhan o’r ymgynghoriad ar y Strategaeth a Ffefrir hefyd wedi’i gynnwys yn y Gofrestr wedi’i diweddaru, sef Tir i’r Dwyrain o’r Fenni 2. Bydd cyfle i wneud sylwadau ar y safleoedd hyn yng nghyfnod y Cynllun Adneuo. Ni allwn dderbyn sylwadau hyd yr amser hwn. Ewch i’r dudalen Safleoedd Ymgeisiol am ragor o wybodaeth.
Camau nesaf
Ym mis Hydref 2023 cymeradwyodd y Cyngor ddiweddariadau i’r Strategaeth a Ffefrir yn dilyn yr ymgynghoriad/ymgysylltiad statudol rhwng Rhagfyr 2022 ac Ionawr 2023. Gallwch weld yr adroddiad hwn yma. Ar hyn o bryd mae gwaith yn mynd rhagddo ar baratoi’r Cynllun Adneuo y disgwylir iddo fod yn destun ymgynghori/ymgysylltu statudol ddiwedd Hydref 2024, er y bydd hyn yn dibynnu ar amseriad Etholiad Cyffredinol y DU.
Sut Ydw i’n Derbyn y Wybodaeth Ddiweddaraf? Os dymunwch gael gwybod am y CDLlA, gan gynnwys ymgynghoriadau yn y dyfodol, cofrestrwch eich manylion neu mae modd cysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio. E-bost: planningpolicy@monmouthshire.gov.uk Ffôn: 01633 644429 |