Mabwysiadwyd y Cynllun Datblygu Lleol (LDP) ar gyfer y cyfnod 2011-2021 ar 27 Chwefror 2014. Fel rhan o’r broses cynllun datblygu statudol, mae’n ofynnol i’r Cyngor baratoi Adroddiad Monitro Blynyddol a’i gyflwyno i Lywodraeth Cymru erbyn 31 Hydref bob blwyddyn.
Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol yn rhoi’r sail ar gyfer monitro effeithlonrwydd y Cynllun Datblygu Lleol ac yn y pen draw yn penderfynu p’un ai oes angen unrhyw ddiwygiadau i’r Cynllun. Mae’n asesu i ba raddau y mae strategaeth ac amcanion y Cynllun yn cael eu cyflawni a phun ai yw ei bolisïau’n gweithredu’n effeithlon ac yn dynodi unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen.
Mae’r Adroddiad Monitro Blynyddol cyfredol yn seiliedig ar y cyfnod 1 Ebrill 2022- 31 Mawrth 2023 ac mae ar gael i’w weld yn defnyddio’r ddolen islaw:
Adroddiad Monitro Blynyddol 2022 – 2023
Adroddiad Monitro Blynyddol blaenorol:
Adroddiad Monitro Blynyddol 2021 – 2022
Adroddiad Monitro Blynyddol 2020 – 2021
Adroddiad Monitro Blynyddol 2019 – 2020
Adroddiad Monitro Blynyddol 2018 – 2019
Adroddiad Monitro Blynyddol 2017 – 2018
Adroddiad Monitro Blynyddol 2016 – 2017