Skip to Main Content

Mae Cyngor Sir Fynwy (CSF) yn ymgynghori ar ei Gynllun Adnau, ynghyd â’r Adroddiad Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig ategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd. Cymeradwywyd y Cynllun Adnau ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus/ymgysylltu statudol yng nghyfarfod y Cyngor ar 24ain  Hydref 2024 . Mae’r Cynllun Adnau, yr Arfarniad o Gynaliadwyedd Integredig a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd ynghyd â’r dogfennau ategol ar gael ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus rhwng dydd Llun 4ydd Tachwedd 2024 a dydd Llun 16eg Rhagfyr 2024. Ewch i dudalen ymgynghori’r CDLlA am ragor o fanylion.

Cytunodd Llywodraeth Cymru ar Gytundeb Cyflenwi diwygiedig ar 25ain Hydref2024 sy’n nodi’r amserlen ddiwygiedig ar gyfer paratoi’r cynllun.

Os dymunwch gael gwybod am y CDLlA, gan gynnwys ymgynghoriadau yn y dyfodol, cofrestrwch,  eich manylion neu cysylltwch â’r Tîm Polisi Cynllunio.

E-bost: planningpolicy@monmouthshire.gov.uk

Ffôn: 01633 644429