Cynllun Cyflenwi y Cynllun Datblygu Lleol Newydd
Mae’r Cynllun Cyflenwi yn cynnwys amserlen ar gyfer paratoi a chyflenwi y Cynllun Datblygu Lleol Newydd ac mae’n cynnwys Cynllun Cynnwys y Gymuned sy’n nodi sut y gall aelodau’r cyhoedd a grwpiau eraill sydd â diddordeb gyfrannu at baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd.
Cytundeb Cyflenwi Diwygiedig
Cafodd y Cytundeb Cyflenwi diwygiedig, sy’n nodi amserlen ddiwygiedig ar gyfer paratoi’r Cynllun, ei gytuno gan Lywodraeth Cymru ar 2 Rhagfyr 2022. Bydd gwaith ar y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yn symud ymlaen yn unol â’r Cytundeb Cyflenwi diwygiedig a gyhoeddwyd.