Skip to Main Content

Bydd y CDLlA Adneuo yn cael ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru i’w archwilio’n annibynnol. Dyma fydd y cynllun yr ystyriwn ei fod yn ‘gadarn’. 

Bydd yr Archwiliad yn cael ei gynnal gan Arolygydd Annibynnol a benodir gan yr Arolygiaeth Gynllunio.  Nod yr Archwiliad yw sicrhau bod y CDLlA wedi’i baratoi yn unol â gofynion gweithdrefnol, ac, i benderfynu a yw’r CDLlA yn ‘gadarn’, gan gynnwys sicrhau bod barn pawb sydd wedi gwneud sylwadau drwy gydol y broses wedi’i hystyried.

Mae’r gofynion gweithdrefnol yn sicrhau bod y CDLlA wedi’i baratoi yn unol â’r Cytundeb Cyflawni (gan gynnwys y Cynllun Cynnwys y Gymuned), yr Arfarniad Cynaliadwyedd/Asesiad Amgylcheddol Strategol a’r Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd.  

Bydd y CDLlA yn cael ei ystyried yn erbyn y tri ‘phrawf o gadernid’:

  • A yw’r Cynllun yn berthnasol?
  • A yw’r Cynllun yn briodol? 
  • A fydd y Cynllun yn cyflawni? 

Bydd yr Archwiliad yn cynnwys gwrandawiadau cyhoeddus, gyda phob gwrthwynebydd yn cael yr hawl i gael gwrandawiad gan yr Arolygydd, er mai’r Arolygydd sy’n penderfynu’r ffordd y cânt eu clywed.