Mae coed yn organebau byw ac felly’n dueddol o ddioddef nifer o glefydau a phla. Mae’r peryclaf o’r organebau hyn wedi’u lledaenu o dramor gan adael ein coed brodorol yn agored iawn i niwed gan nad oes ganddynt fecanweithiau amddiffyn naturiol yn eu herbyn. Mae’n bwysig edrych allan am y clefydau a’r plâu hyn er mwyn helpu i liniaru’r materion y maent yn eu hachosi a helpu i’w hatal rhag lledaenu ymhellach. Mae’n werth nodi nad yw pob ffwng yn ddrwg i goeden neu’n arwydd o iechyd gwael, mae rhai yn gallu bod o fudd. Darllenwch y dudalen hon am ychydig o wybodaeth gyffredinol ynglŷn â rhai o’r plâu a’r clefydau mwyaf cyffredin a pheryglus yn y DU.
Clefyd Coed Ynn (Hymenoscyphus fraxineus)
Mae clefyd coed ynn wedi bod yn effeithio ar goed ynn yn y DU ers 2006, er mai dim ond yn 2016 y cafodd y ffyngau a oedd yn achosi’r clefyd ei nodi’n ffurfiol. Mae’r clefyd hwn yn ddinistriol i goed ynn a bydd yn fwyaf tebygol o ladd tua 80% o goed ynn y DU. I gael mwy o wybodaeth am beth mae Cyngor Sir Fynwy yn gwneud, ewch i’n tudalen we Clefyd Coed Ynn.
Clefyd Llarwydd (Phytophthora ramorum)
Mae clefyd llarwydd wedi ei gofnodi yn y DU ers 2002. Mae’r clefyd hwn yn cael ei achosi gan y bacteria Phytophthora Ramorum sy’n mynd i mewn drwy ddail y coed. Gall y bacteriwm hwn ledaenu i goed cyfagos, ac mae’n mynd i mewn drwy wanhau dail neu nodwyddau. Mae Phytophthora ramorum hefyd yn gallu heintio coed eraill fel castanwydd melys a chastanwydd y meirch. Mae hyn yn arwain at symptomau gweladwy fel dail/nodwyddau wedi’u gwywo a/neu wedi’u duo sy’n arwain at farw’n ôl y canghennau allanol yn ogystal ag ardaloedd o “waedu” du ar y boncyff. Y cyngor cyffredinol ar gyfer Clefyd Llarwydd yw cael gwared ar y goeden sydd wedi’i heintio ac unrhyw larwydd cyfagos i gyfyngu ar heintiau. Yna dylid ailblannu’r ardaloedd gyda rhywogaethau llai agored i niwed.
Mwy o wybodaeth:
Dirywiad Derw Aciwt
Mae Dirywiad Derw Aciwt (DDA) wedi cael ei adnabod yn y DU ers cannoedd o flynyddoedd, gyda’r dirywiad presennol yn parhau ers o leiaf 2020. Nid yw DDA yn fath traddodiadol o afiechyd megis bacteria neu ffyngau, ond dirywiad mwy cyffredinol ym mywiogrwydd y goeden. Mae hyn fel arfer i’w wneud â ffactorau amgylcheddol fel gwres eithafol neu straen dŵr. Symptomau DDA yw teneuo cyffredinol y goron, gwaedu coesyn helaeth (sy’n edrych fel mannau tywyll a gwlyb ar y coesyn), a hylif tywyll sy’n llifo trwy holltau fertigol yn y rhisgl. Er nad yw DDA o reidrwydd yn farwol ar ei phen ei hun, mae’r goeden sydd wedi’i gwanhau yn dioddef o blâu a chlefydau eilaidd. Y ffordd a argymhellir i ymladd DDA yw ailblannu coed derw i ychwanegu at y niferoedd.
Mwy o wybodaeth:
Turiwr Castanwydd y Meirch (Cameraria ohridella)
Turiwr Castanwydd y Meirch yw lindys/larfa’r gwyfyn Cameraria Ohridella ac yn bla sy’n heintio Castanwydd y Meirch. Mae’r gwyfyn wedi’i gadarnhau yn y DU ers 2014. Mae’r lindys yn bwyta’u ffordd drwy’r dail gan adael traciau gwag. Mae hyn yn achosi symptomau dail afliw sych a brau a all achosi cwymp dail cynamserol. Er bod y difrod yn gosmetig yn bennaf, gall effeithio ar allu’r coed i ffurfio hadau (concyrs) a gall heintiadau dilynol dros nifer o flynyddoedd wanhau’r goeden gan ganiatáu i blâu a chlefydau eilaidd gydio. Nid oes llawer y gellir ei wneud i atal y clefyd hwn, er y gall dilyn argymhellion bioddiogelwch helpu i gyfyngu ar ei ledaeniad.
Mwy o wybodaeth:
Gwyfyn Ymdeithiol y Derw (Thaumetopoea Processionea)
Mae gwyfyn ymdeithiol y derw yn bla sy’n effeithio ar goed derw, ac mae lindys y gwyfyn hwn yn berygl i iechyd pobl ac anifeiliaid. Ar hyn o bryd, mae’r gwyfyn wedi’i gyfyngu i ardal Llundain fwyaf ac mae arferion bioddiogelwch llym i sicrhau nad yw’n lledaenu ymhellach. Mae’n dal yn bwysig gwybod y risgiau a sut i adnabod y pla hwn er mwyn sicrhau diogelwch coed a phobl. Mae’r lindys yn beryglus gan fod y blew bach y mae’r lindys yn eu colli yn alergen, ac yn arbennig o beryglus i unigolion sydd â’r fogfa. Mae dod i gysylltiad â’r blew yn achosi brech goch sy’n cosi a gall lidio’r ysgyfaint. Mae’r lindys hefyd yn effeithio ar iechyd y goeden gan eu bod yn gallu difetha dail y coed, gan arwain at y goeden yn gwanhau ac yn achosi plâu a chlefydau eilaidd.
Am fwy o wybodaeth:
Arferion gorau bioddiogelwch
Er mwyn helpu i ddiogelu rhywogaethau brodorol, mae rhai camau syml y gallwch eu cymryd er mwyn atal lledaeniad plâu a chlefydau penodol. Wrth ymweld â mannau coedwigol, parciwch ar arwynebedd caled fel tarmac neu goncrit yn hytrach na glaswellt, lle bo hynny’n bosib. Cofiwch olchi offer fel esgidiau a beiciau wrth fynd rhwng gwahanol ardaloedd o goedwig. Yn ddelfrydol, mae’n well gwneud hyn tra byddwch ar y safle. Os ydych yn mynychu ardaloedd gwahanol o goetir yn aml, cofiwch lanhau eich car, beic a’ch esgidiau’n rheolaidd, er mwyn sicrhau nad oes trosglwyddiad o fwd rhwng safleoedd.
Am fwy o wybodaeth:
Mae’r dudalen hon yn rhoi trosolwg cyffredinol o blâu a chlefydau i edrych amdanynt. Os oes angen mwy o wybodaeth fanwl arnoch, edrychwch ar y dolenni canlynol:
Dolen i dudalen y Woodland Trust: Key tree pests and diseases – Woodland Trust
Observatree: https://www.observatree.org.uk/
Forest Research: https://www.forestresearch.gov.uk/tools-and-resources/fthr/pest-and-disease-resources/