Os hoffech blannu coed ar dir cyngor
Mae’r cyngor wedi ymrwymo i gynyddu’r gorchudd coed trefol. Dros gyfnodau’r gaeaf rhwng 2019 a 2022, plannodd y cyngor dros 14000 o goed o fewn aneddiadau allweddol y sir. Mae’r cyngor wedi ymrwymo i blannu rhagor o goed i wella’r amgylchedd a chyfrannu at leihau effeithiau newid yn yr hinsawdd.
Rydym hefyd yn gweithio gyda Chymdeithas Tai Sir Fynwy, Cynghorau Tref a Chymuned a grwpiau cymunedol i blannu coed ar dir sy’n eiddo iddynt.
Rydym yn chwilio am safleoedd ym mhob un o’n trefi a phentrefi. Os ydych yn gwybod am ardal gymunedol rydych chi’n teimlo fyddai’n elwa o blannu un neu fwy o goed, cysylltwch â ni a byddwn yn ystyried hyn fel rhan o’n cynllunio.
Mae’r tymor plannu coed yn rhedeg rhwng mis Tachwedd i ddechrau mis Mawrth, gyda choed a blannwyd yn gynharach yn gyffredinol â chyfradd goroesi well, felly ystyriwch hynny wrth ddanfon eich e-bost.
E-bostiwch Groundsandcleansing@monmouthshire.gov.uk gyda’r manylion canlynol:
- Eich enw a’ch manylion cyswllt
- Yr union leoliad yr hoffech blannu, yn ddelfrydol gyda map a’r lleoliad WhatThreeWords
- Pa rywogaethau a maint y goeden yr hoffech ei phlannu
- Faint o goed hoffech chi eu plannu
- A yw’r goeden hon yn gofeb i berson neu ddigwyddiad?
- Ydych chi’n gofyn i Gyngor Sir Fynwy i blannu’r goeden/coed neu a hoffech chi wneud hynny?
- Allwch chi gynorthwyo gyda chynnal y goeden/coed ar ôl plannu?
Cronfa plannu coed y Siop Ailddefnyddio
Mae gennym ddwy siop ailddefnyddio yn Sir Fynwy sy’n gwerthu eitemau sydd wedi eu hachub rhag cael eu gwaredu yn ein Canolfannau Ailgylchu. Maen nhw’n gwerthu popeth o bric-a-brac i hen bethau a phethau casgladwy. Mae Sir Fynwy wedi datgan Argyfwng yn yr Hinsawdd – bydd elw o’r siop yn mynd tuag at blannu coed yn ein trefi a’n pentrefi i helpu cynyddu’r gorchudd canopi coed trefol a lliniaru effeithiau newid yn yr hinsawdd ar lefel leol.
I gyfrannu eitemau neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch: RecyclingandWaste@monmouthshire.gov.uk
Am fwy o wybodaeth:
https://www.monmouthshire.gov.uk/cy/ailgylchu-a-gwastraff/y-siop/