Skip to Main Content

Yn dilyn ei sioe a oedd wedi gwerthu allan yn llwyr pedair blynedd yn ôl, mae Max Boyce yn dychwelyd i Ganolfan Hamdden Cil-y-coed ar ddydd Sadwrn 5ed Hydref – ac mae’n mynd i fod yn noson anhygoel! Mae sioe ar daith Max wedi’i ymestyn i Hydref 2019 oherwydd y galw aruthrol gan y cyhoedd!

Mae Max Boyce wedi bod yn diddanu pobl ym mhob cwr o’r byd ers dros 40 o flynyddoedd gyda’i allu i beintio darluniau gyda gair a chân. Mae cynulleidfa ifanc newydd enfawr wedi darganfod y diddanwr eithriadol yma yn ddiweddar, gan ei gymryd i’w calonnau a’i wneud yn wir arwr gwerin fodern.

Does dim angen cyflwyno perfformiadau byw Max; mae ymateb a chymeradwyaeth sefyll y gynulleidfa yn dweud popeth. Peidiwch â cholli allan ar y profiad unigryw o weld cyngerdd Max Boyce yn fyw a gallu dweud “Roeddwn i Yno!”

Cost y tocynnau yw £28 (ac yn amodol ar ffi archebu) ac maent ar gael oddi wrth Theatr Bwrdeistref y Fenni neu drwy glicio yma.

I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein Cwestiynau Cyffredin neu e-bostiwch ni yn events@monmouthshire.gov.uk am unrhyw ymholiadau eraill.