Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Pennaeth y Tîm Partneriaeth Rhanbarthol

Arwain y rhaglen gymhleth o waith partneriaeth o dan Fwrdd Partneriaeth
Rhanbarthol Gwent, dan arweiniad Cyfarwyddwyr a Phenaethiaid Gwasanaeth ar
draws y partneriaid. Bydd hyn yn cynnwys gweithio’n agos mewn partneriaeth ag
amrywiaeth eang o bartneriaid rhanbarthol gan gynnwys Iechyd, y trydydd sector,
landlordiaid cymdeithasol cofrestredig a phartneriaid yn y sector annibynnol, yn
ogystal â chyfrannu ar lefel Cymru gyfan gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid
eraill. Mae hon yn rôl uchel ei phroffil sy’n uniongyrchol atebol i 5 Cyfarwyddwr
Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol trwy fframwaith llywodraethu rhanbarthol.
Bydd deiliad y swydd yn arwain ar drefniadau cymorth rhanbarthol i yrru
trawsnewidiad a datblygiad parhaus iechyd a gofal cymdeithasol yn rhanbarth
Gwent. Bydd y rôl hon yn arwain wrth gefnogi llywodraethu effeithiol y Bwrdd
Partneriaeth Rhanbarthol a’i strwythurau ategol, gan gynnwys y Grŵp Arwain
gweithredol, ac yn sicrhau bod ffocws ar gyflawni canlyniadau gwell i bobl,
cymunedau a sefydliadau.

Gweler y botwm ‘Gwnewch Gais yn Awr/Apply Now’ isod i gael mwy o wybodaeth am y swydd wag hon ar dudalen recriwtio y partner allanol perthnasol.

Gradd: Gradd 12 - PGS 50 - 53

Dyddiad Cau: 05/07/2024 12:00 am