Cyngor i’ch busnesau lleol
Daw 2021 â heriau newydd wrth i Brydain ganfod ei thraed tu allan i’r Undeb Ewropeaidd a sicrhau adferiad ar ôl gaeaf heriol iawn a achoswyd gan COVID-19.
I gefnogi busnesau i gynllunio ar gyfer diwedd y pontio ar ddechrau’r flwyddyn nesaf, dylai gweithgareddau a chyngor ganolbwyntio ar bedwar maes allweddol.
Parhad
Fyddwch chi’n medru parhau i weithredu a rhoi gwasanaeth i gwsmeriaid?
Gwnewch yn siŵr eich bod yn lleihau’r cyfleoedd o unrhyw darfu ar ôl pontio ac ansicrwydd economaidd ehangach.
Gall hyn fod drwy:
- Cadw’r gweithlu presennol a chynnig buddion heb fod yn ariannol
- Ar ôl y pandemig, ailwerthuso eich man torri’n wastad yn ariannol a gwybod beth sydd angen ei wneud i barhau’n hyfyw
- Adolygu lefelau stoc
- Cysylltu gyda chyflenwyr a chwsmeriaid
- Adolygu unrhyw fregusrwydd ar hyd y gadwyn gyflenwi
Cydymffurfiaeth
A fydd eich holl waith papur yn gyfredol ?
Bydd y tirlun rheoleiddiol yn newid. Sicrhewch fod eich sefydliad, cynnyrch a gwasanaethau yn cydymffurfio gyda’r rheolau a’r prosesau newydd, yn cynnwys:
- Gwiriadau a dogfennau tollau.
- Prosesau TAW newydd ar gyfer allforion ledled y gadwyn gyflenwi
- Profion cydymffurfiaeth safonau cynnyrch ar gyfer allforion i’r Undeb Ewropeaidd
- Mesurau diogelu data a GDPR
- Labelu bwydydd a diodydd ar gyfer allforion o Brydain i’r Undeb Ewropeaidd
- Yr amgylchedd a chynaliadwyedd
Cost
Allwch chi ostwng costau a rhyddhau arian?
Gyda tharfu sylweddol i ddod yn yr economi, dylai busnesau feddwl nawr am yr effaith barhaus a gaiff hyn a’r camau y gallant eu cymryd i ymateb.
Mae meysydd eraill yn cynnwys:
- Gostwng gwariant heb fod yn hanfodol
- Dynodi sut i dorri tua 10% o gostau
- Tynhau rheoli dyledion – cwrso biliau heb eu talu a cheisio talu unrhyw hen ddyledion
- Beth wnaethoch chi ddysgu o reoli llif arian drwy gydol y pandemig? A ellir symud ymlaen â hyn i 2021??
Cyfathrebu
Ydych chi wedi siarad gyda phawb sydd angen?
Mae cyfathrebu yn hanfodol, ac yn allweddol i unrhyw gynllun. Gall hyn fod drwy gysylltu gyda chyfrifwyr, buddsoddwyr neu eich banc, cadwyni cyflenwi, gweithwyr neu gwsmeriaid.
Bydd hyn yn helpu i leihau unrhyw darfu ac adeiladu nerth eich busnes mewn cyfnod o newidiadau gwleidyddol ac economaidd.
Defnyddiwch y newid ddaeth yn sgil COVID-19 a’r darogan am heriau gwahanol wrth i ni agosáu at 2021 fel cyfle i ymestyn allan, dynodi unrhyw broblemau posibl a llunio datrysiadau ymlaen llaw.