Gwarchod plant fel gyrfa yng Nghymru
Fel rhan o’n gwaith recriwtio i’r sector gwarchod plant ac yn dilyn ymlaen o’n gwaith ar ddadgofrestru gwarchodwyr plant yn 2017 a 2018, mae PACEY
Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid i godi proffil gwarchod plant a’i hyrwyddo’n eang ledled Cymru.
Cymerwch gip ar y wybodaeth ar ein gwefan a’i rhannu ar gyfer y rhai sydd â diddordeb mewn dod yn warchodwr plant:
Dod yn warchodwr plant yng Nghymru
Hyfforddiant cyn-cofrestru yng Nghymru
Mae Cofrestru fel gwarchodwr plant yng Nghymru yn cynnwys mwy o
wybodaeth fanwl am y camau i gofrestru fel gwarchodwr plant yng
Nghymru.
Mae 5 rheswm i weithio ym maes gofal plant yn cynnwys ffeiliau PDF y
gellir eu lawr lwytho o’n taflenni hyrwyddo yn Saesneg a Chymraeg.
Taith i gofrestru yn warchodwr plant yng Nghymru – Blog
Cael y ffeithiau am fythau gwarchodwr plant yn y Du
Beth mae gwarchodwyr plant yn ei wneud
Gofal Cymdeithasol Cymru – Ymgyrch Gofalwn Cymru
Mae Gofalwn Cymru yn ceisio codi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o ofal
cymdeithasol, y blynyddoedd cynnar a gofal plant a denu mwy o bobl gyda’r sgiliau a’r gwerthoedd cywir i weithio mewn swyddi gofal gyda phlant ac oedolion. Mae yna mwy o wybodaeth am ymgyrch Gofal Cymdeithasol Cymru ar y wefan bwrpasol Gofalwn.Cymru a gofal plant yn y cartref.
Arolygiaeth Gofal Cymru AGC
Yng Nghymru, mae gwarchodwyr plant yn cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC), am wybodaeth bellach ewch i gofrestru gwasanaethau gofal plant a chwarae ar wefan AGC.
Gwybodaeth neu gymorth bellach
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â PACEY Cymru:
PACEY Cymru, paceycymru@pacey.org.uk neu 02920 351 407