Ar gyfer Ceisiadau am Drwydded Preswylwyr:
Prawf Preswylio
Byddwn yn derbyn un o’r dogfennau a restrir isod. Rhaid i hyn ddangos yr enw a’r cyfeiriad fel y darperir yn y cais.
- Bil Treth Gyngor neu Fil Dŵr diweddaraf
- Bil Cyfleustodau o’r 3 mis diwethaf
- Trwydded yrru gyfredol yn dangos cyfeiriad.
- Cytundeb Tenantiaeth cyfredol wedi’i lofnodi gennych chi a’ch landlord.
- Llythyr Cwblhau gan Gyfreithiwr os yw eich eiddo wedi’i brynu yn y mis diwethaf.
Dogfennau Prawf o Berchnogaeth Cerbyd
Byddwn ond yn derbyn copi o un o’r dogfennau a restrir isod. Rhaid i ddogfennau a ddarperir dangos enw a chyfeiriad yr un ymgeisydd a rhif cofrestru’r cerbyd â’r cais.
- Dogfen Cofrestru Cerbydau (V5C)
- Cytundeb Llogi / Prydles
- Bil Gwerthu Swyddogol (os yw’r cerbyd wedi’i brynu yn y mis diwethaf)
- Os yn gerbyd cwmni: byddwn angen llythyr gan eich cyflogwr ar ben-llythyr y cwmni, yn cadarnhau bod y cerbyd yn eiddo/ar brydles ganddo ac mai chi yw unig geidwad/defnyddiwr y cerbyd. Byddwn hefyd angen copi o’r ddogfen gofrestru/cytundeb prydles cerbyd gyda hyn.
Ar gyfer Ceisiadau am Drwydded Tymor:
Dogfennau Prawf o Berchnogaeth Cerbyd
Byddwn ond yn derbyn copi o un o’r dogfennau a restrir isod:
- Dogfen Cofrestru Cerbydau (V5C)
- Tystysgrif Yswiriant Modur cyfredol
- Cytundeb Llogi / Prydles
- Bil Gwerthu Swyddogol (os yw’r cerbyd wedi’i brynu yn y mis diwethaf)
- Os yn gerbyd cwmni: byddwn angen llythyr gan eich cyflogwr ar ben-llythyr y cwmni, yn cadarnhau bod y cerbyd yn eiddo/ar brydles ganddo ac mai chi yw unig geidwad/defnyddiwr y cerbyd. Byddwn hefyd angen copi o’r ddogfen gofrestru/cytundeb prydles cerbyd gyda hyn.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau am eich dogfennau ategol, anfonwch e-bost atom yn carparking@monmouthshire.gov.uk