Mae Cyngor Sir Fynwy yn ymroddedig i sicrhau perfformiad gwell mewn darpariaeth addysgol yn unol â gofynion polisi ac amcanion Llywodraeth Cymru.
Mae’r Cyngor yn ymgymryd i roi’r dechrau gorau posibl mewn bywyd i blant a phobl ifanc. Byddwn yn buddsoddi yn nysgu a datblygiad ein holl blant, gan sicrhau fod ganddynt yr amgylcheddau, sgiliau a’r gefnogaeth i ffynnu a bod yn barod i weithio ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn bwysig er mwyn i blant a phobl ifanc fod yn barod ar gyfer diwydiant, yn medru cyfrannu’n lleol ac yn fyd-eang ac ateb gofynion byd sy’n newid yn gyflym.
Mae’r Rhaglen Ysgolion Cynaliadwy yn gydnaws gyda nodau ac amcanion polisi lleol a chynaliadwy. Diben strategol Sir Fynwy yw creu ‘cymunedau cynaliadwy a chryf’, sydd yn hollol gydnaws gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Yn neilltuol, mae’n cysylltu gyda:
Cymru lewyrchus – Drwy greu poblogaeth fedrus ac addysgedig
Cymru gydnerth – Drwy integreiddio technolegau adnewyddadwy ac adeiladau cynaliadwy byddwn yn lleihau ein heffaith ar yr amgylchedd
Cymru sy’n fwy cyfartal – Wedi’i lleoli yn ardal fwyaf amddifadus Sir Fynwy ac yn flaenorol yn ardal Cymunedau yn Gyntaf, bydd yr ysgol yn galluogi cyfuno gwaith i fynd i’r afael â’r heriau economaidd-gymdeithasol yn yr ardal
Cymru o gymunedau cydlynus – Drwy integreiddio cymunedau yn y dref yn well a hyrwyddo lle diogel i bawb
Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu – Rhan allweddol o’r cynnig yw symud Ysgol Gynradd Gymraeg y Fenni i safle mwy i’w galluogi i dyfu a datblygu.
Cymru sy’n gyfrifol ar lefel fyd-eang – Wrth ddarparu addysg ragorol mewn lleoliad cynaliadwy a chydlynol, bydd yr ysgol yn paratoi myfyrwyr i gydnabod eu rhan lawn yn y byd.
Mae’r Rhaglen Ysgolion Cynaliadwy yn gynllun ar y cyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yng Nghymru i greu’r ysgolion cywir yn y lleoedd cywir. Prif flaenoriaethau Cyngor Sir Fynwy ar gyfer y rhaglen buddsoddi yw:
- Trawsnewid y ddarpariaeth addysg ledled y Sir
- Codi safonau cyflawniad ac uchelgais i bawb
- Darparu sefydliadau dysgu 21ain Ganrif
- Codi cyfleoedd bywyd ar gyfer pawb o fewn y gymuned
- Darparu cynnig addysgol effeithiol, effeithlon ac a gaiff ei reoli’n dda sy’n hygyrch i bawb
- Denu gweithlu ansawdd uchel i arwain a gweithio yn ein hysgolion
Mae’r Cyngor yn ymroddedig i ddarparu cyfleoedd dysgu gydol oes mewn amgylchedd sy’n addas ar gyfer dysgu 21ain Ganrif, gan sicrhau fod gan blant a phobl ifanc fynediad i ddarpariaeth ddysgu fodern fydd yn codi safonau addysgol ar gyfer pob dysgwr.
Bydd y Cyngor, fel rhan o’r strategaeth gyffredinol ar gyfer y rhaglen Ysgolion Cynaliadwy, yn coleddu’r newid ar draws yr awdurdod mewn dysgu ac addysgu. Bydd dull trawsnewidiol i ad-drefnu ac ailddatblygu yr holl stad ysgolion yn deillio o’r newid hwn.
Dros flynyddoedd diweddar, gwnaed cynnydd i drawsnewid addysg yn Sir Fynwy. Er enghraifft:
- Gwella mynediad a lleoedd ysgol
- Gostwng nifer lleoedd gwag
- Datblygu dysgu Ôl 16 effeithlon
- Gwella presenoldeb mewn ysgolion
- Cynlluniau i godi safonau mewn llythrennedd a rhifedd
- Adolygu Anghenion Dysgu Ychwanegol a’u diwallu ar y pwynt angen a lleoliad
Amcanion y Prosiect
Amcan craidd y prosiect yw darparu ysgol newydd 3-19 oed ar safle Ysgol Gyfun Brenin Harri VIII yn cynnwys:
Cyfnodau Allweddol
Cyfnod | Grŵp Blwyddyn |
Dechrau’n Deg | Plant 0-3 |
Cyfnod Sylfaen | Meithrin, Derbyn, Blynyddoedd 1 a 2 |
Cynradd | Blynyddoedd 3 a 4 |
Canolradd | Blynyddoedd 5, 6, 7 a 8 |
Cyfnod Allweddol 4 | Blynyddoedd 9, 10 a 11 |
Cyfnod Allweddol 5 | Blynyddoedd 12 a 13 |
Darperir Canolfan Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (SEBD) gyda 71 lle (16 cynradd a 55 uwchradd). Bydd y Ganolfan SEBD yn darparu ar gyfer disgyblion gydag anghenion niwroddatblygiadol cymhleth.
Caiff adeilad blaenorol Ysgol Gynradd Deri View ei ailwampio ar gyfer Ysgol Gymraeg y Fenni sydd wedi gordyfu eu hadeilad presennol. Bydd hyn yn cynorthwyo i ddatblygu darpariaeth Gymraeg yng ngogledd Sir Fynwy.
Yn unol ag ymrwymiadau Sir Fynwy ar argyfwng hinsawdd, bydd yr adeilad yn net sero carbon gyda defnydd isel o ynni mewn adeiladu a defnydd ac yn anelu i sicrhau graddiad A mewn EPC gyda ffocws ar ostwng yn sylweddol y pwysau ar gyllidebau cynnal a chadw wedi’i gynllunio ac ymatebol yn y dyfodol.
Nod y prosiect yw creu adeilad wedi’i gynllunio’n dda, effeithlon o ran cost, gwydn iawn, cynnal a chadw isel ac addas i’r diben a fwriadwyd. Mae’r cynigion yn anelu i gynyddu i’r eithaf –
- hyblygrwydd mewn defnydd
- y gallu i addasu yn y dyfodol
- effeithiolrwydd mewn gwaith adeiladu
- gwerth gorau am gost adeiladu cyfalaf
- effeithiolrwydd mewn adeiladu
- ynni isel a carbon isel
- datrysiadau dylunio integredig sy’n manteisio i’r eithaf ar olau dydd naturiol ac awyriant naturiol tra’n ymgorffori adnoddau effeithiol o ran ynni.
Gan y bydd y safle yn parhau yn gweithredu fel ysgol drwy gydol y cyfnod adeiladu, mae’n hanfodol y gellir cyflawni’r prosiect mewn amgylchedd gwaith diogel ar gyfer staff ysgol a staff adeiladu fel ei gilydd.
Lle bo angen, bydd y gwaith yn cynnwys uwchraddio priffyrdd, gwasanaethau a seilwaith draeniad.
Gwerthoedd
Rydym yn ymdrechu i ddarparu gwasanaethau ansawdd uchel sy’n diwallu anghenion pobl a busnesau lleol. I’n helpu i gyflawni hyn rydym wedi gosod amcanion a thargedau, gan roi ystyriaeth i’r pethau sy’n bwysig i bobl.
“Rydym eisiau adeiladu cymunedau cynaliadwy a chryf sy’n cefnogi llesiant cenedlaethau’r dyfodol a hefyd genedlaethau’r dyfodol. Mae’r weledigaeth hon yn greiddiol i bopeth a wnawn i wella lles economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Sir Fynwy.”
Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc Cyngor Sir Fynwy
Dilynwch ni ar Twitter i gael yr wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd.