Chwefror 2022
Great to see purposeful learning and happy students during 21st Century Schools visit. Thank you Ysgol Pen Rhos.@KingHenrySchool@DeriViewPrimary @21st_CentSchool pic.twitter.com/MMzr1Z0O2n
— Tim Bird (@TimBirdschools) February 11, 2022
Y mis hwn arweiniodd Tim Bird, cynghorydd Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, ymweliad o blant a phobl ifanc o ysgolion Brenin Harri a Deri View yn Sir Fynwy i Ysgol Pen Rhos yn Llanelli i edrych ar ddysgu a llesiant mewn amgylchedd dysgu newydd gwych.
Ionawr 2022
Yn 19 Ionawr cytunodd y Cabinet ar gam nesaf y broses yn creu ysgol 3-19 oed yn y Fenni.
Aeth Paul Matthews, Prif Weithredwr Cyngor Sir Fynwy, ar Twitter i fynegi ei gyffro am y datblygiadau hyn:
Local Government never stops-M’shire Cabinet today
?launched 2022/23 budget consultation
?moved forward with new build 3-19 school for Abergavenny
?master-plan agreement for Usk & Woodside
?approved Welsh Education Strategic Plan setting out new primary & secondary provision— Paul Matthews (@PaulMatthews67) January 19, 2022
Aeth Wil McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc, ar Twitter hefyd i ddangos pwysigrwydd y prosiect hwn:
An important day for education and the Welsh language today in @MonmouthshireCC
Cabinet have agreed the next stage of the process to create a 3-19 school in Abergavenny and have approved the Welsh in Education Strategic Plan that will grow our provision over the next 10 years.— Will McLean (@willmc21) January 19, 2022
Rhagfyr 2022
Gwefan cynllunio yn mynd yn fyw: King Henry VIII Secondary School Site, Old Hereford Road, Abergavenny / Ysgol Uwchradd Brenin‘r Harri VIII, Hen Ffordd Henffordd, Y Fenni (asbriplanning.co.uk)
Gellir lawrlwytho syniadau dylunio o’r wefan cynllunio islaw.
Tachwedd 2021
Ymgynghoriad gyda’r gymuned
Mae Cyngor Sir Fynwy yn angerddol am gael sylwadau gan y gymuned, yn ogystal â rhanddeiliaid yn ehangach.
Yn ystod ein ymgynghoriadau gyda’r gymuned, rydym wedi llwyddo i siarad gyda rhanddeiliaid sydd wedi rhoi eu sylwadau diffuant ar y cynlluniau a nodwyd ar gyfer adeiladu ysgol 3-19 pob oed yn y Fenni.
Dywedodd Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc, pam fod ymgynghori gyda’r gymuned yn ddull pwysig yn y broses:
“Fe wnaethom wrando ar yr hyn a ddywedodd y cyngor a bu modd i ni newid ein cynnig yng ngoleuni hynny”– Will McLean, Prif Swyddog Plant a Phobl Ifanc
Cynhaliwyd arddangosfa’r ymgynghoriad cyhoeddus yn @YsgolBreninHarri, gydag ymgynghoriad cyhoeddus arall wedi ei drefnu ar gyfer @YsgolDeriView i gynyddu cyrraedd ar adborth. Roedd swyddogion o’r Cyngor ac aelodau o’r Tîm Datblygu yn bresennol i ateb unrhyw ymholiadau y gall unrhyw randdeiliad wedi bod â nhw.
Dewch yn ôl i’r dudalen hon am unrhyw ddiweddariad pellach ar ble a sut y cynhelir yr ymgynghoriad nesaf gyda’r gymuned (efallai y gall ein tudalen Cwestiynau Cyffredin helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych).
Ymgynghoriad gyda myfyrwyr
Fel rhan o COP26, cyfarfu’r Cyngor Eco gyda pheirianwyr i ddysgu sut y caiff ysgol sero carbon ei dylunio, ei hadeiladu a’i gweithredu.
Hydref 2021
Ymgynghoriad staff
Ymchwiliodd staff yn Ysgol Brenin Harri VIII ac Ysgol Deri View beth y credent oedd yr ystafell ddosbarth berffaith a sut y teimlent yr oedd eu myfyrwyr yn dysgu orau.
Ymchwiliodd timau’r adran beth oedd yn gwneud dysgu effeithlon yn eu pwnc a sut y gallai gwahanol ofodau, y tu mewn a thu allan i’r ysgol newydd, wneud gwahaniaeth mawr i lesiant a llwyddiannau.
Bu adborth staff yn hollbwysig wrth helpu i lunio amgylcheddau dysgu penodol i adran yn y ffordd sy’n gweddu orau i arddull dysgu eu myfyrwyr.
Medi 2021
Ymgynghoriad Cyngor Ysgol
Yn ystod mis Medi bu myfyrwyr a staff yn brysur yn ymgynghori gyda phenseiri, dylunwyr, peirianwyr ac aelodau o dîm Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Sir Fynwy ar gynlluniau ar gyfer ein hysgol 3-19 newydd.
Bu Tim Bird, Cynghorydd Ysgolion 21ain Ganrif, yn ymgynghori gyda Chynghorau Ysgol o Ysgol Brenin Harri ac Ysgol Deri View. Cynhelir ymweliadau bob tymor i ddiweddaru disgyblion ar ba newidiadau a wnaed fel canlyniad i’w mewnbwn pwysig yn ystod yr ymgynghoriadau hyn.
I gael yr wybodaeth ddiweddaraf ar brosiect Ysgolion yr 21ain Ganrif, dilynwch ni ar Twitter.