Skip to Main Content
Dewch i ymuno ar tim

Mentor a Gweithiwr Ymgysylltu Multiply

Mae tîm  Cyflogaeth a Sgiliau yn dymuno recriwtio tîm bach i weithio mewn lleoliadau cymunedol ac ysgolion ar draws Sir Fynwy. Rydym am glywed gan ymarferwyr gwybodus sydd â phrofiad o weithio o fewn lleoliadau addysg neu gymunedol.

 

Mae’r tîm Lluosi  yn creu rhaglen newydd er mwyn cynnig gweithgareddau dysgu ac addysgu rhagorol, gan ddefnyddio dulliau arloesol tra’n ystyried anghenion y dysgwyr unigol. Bydd y tîm yn ymgysylltu gyda dysgwyr ar draws Sir Fynwy er mwyn cynnig ymyriadau i gefnogi oedolion i oresgyn eu  hofn a’u trafferth gyda rhifedd, yn academaidd ac yn ymarferol.

 

Rydym yn chwilio am unigolion, egnïol, brwdfrydig ac empathetig i ymuno gyda’r rhaglen newydd hon.

 

Ni fydd unrhyw ymgeisydd yn medru cwrdd â’r holl ofynion. Os yw eich profiad ychydig yn wahanol i’r hyn sydd wedi ei nodi a’ch bod yn medru dod â gwerth i’r rôl, rydym am glywed mwy amdanoch!

 

Mae hon yn swydd dymor penodol sy’n cael ei hariannu gan Lywodraeth y DU drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.

Cyfeirnod Swydd: LYW0012

Gradd: Band F SCP 19 £29,777– SCP 23 £32,076

Oriau: 37 awr

Lleoliad: Neuadd y Sir, Brynbuga, Sir Fynwy.

Dyddiad Cau: 02/10/2024 12:00 pm

Dros dro: Tan 31ain Mawrth 2025, 37 awr yr wythnos, Amser llawn (Byddwn yn ystyried caniatáu amodau gwaith hyblyg, Secondiad, Gweithio yn Ystod Term Ysgol yn unig a gweithio rhan amser)

Gwiriad DBS: Bydd angen gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.