
MonLife
Mae Haf MonLife yn cynnig amrywiaeth o ddigwyddiadau a gweithgareddau hwyliog ar draws Sir Fynwy, a thra bod angen talu am rai ohonynt, mae eraill AM DDIM.

Cynhyrchion Mislif Rhad ac Am Ddim
👉 Ble i ddod o hyd i gynhyrchion AM DDIM >
📧 E-bostiwch ‘Sgwrsio gyda Flo’ chatwithflo@monmouthshire.gov.uk
Rydyn ni yma i helpu i dorri’r stigma sy’n gysylltiedig â’r mislif i unrhyw un sy’n profi mislif – mae’n bwysig!
Ar hyn o bryd mae dros 40 o leoliadau ar draws y sir sydd â chynnyrch AM DDIM ar gael. Bydd gennym ein sticeri ‘Sgwrsio â Flo’ ar ffenest/drws y lleoliadau hyn er mwyn i chi allu mynd i mewn i fachu cynnyrch AM DDIM.

Oergelloedd Cymunedol
👉 Oergell Gymunedol Cwtch Angels y Fenni
👉 Oergell Gymunedol Cil-y-coed
👉 Oergell Gymunedol Cas-gwent
👉 Oergell Gymunedol Trefynwy
👉 Pantri Bwyd Cymunedol (Rhaglan)
👉 Oergell Gymunedol Magwyr
Oergelloedd Cymunedol ar gael i bawb! Yn cynnig amrywiaeth o fwyd o ansawdd dros ben o archfarchnadoedd AM DDIM i atal gwastraff bwyd. Dewch heibio i weld beth sydd ar gael.


Cefnogaeth Costau Byw
👉 Tudalennau gwefan costau byw >
👉 Cefnogaeth LLEOL i CHI >
Ewch i’r Tudalennau Costau Byw ar ein gwefan i gael cyngor a chefnogaeth, neu cerddwch i mewn i un o’n hybiau cymunedol a gallant roi gwybod pa gymorth sy’n fwyaf perthnasol o bosib.

Cinio Ysgol Am Ddim a Grant Hanfodion Ysgolion
📞 01495 742377 or 01495 742037
📧 benefits@monmouthshire.gov.uk
🌐 Gwneud cais am brydau ysgol am ddim ar gyfer eich plentyn – Monmouthshire
I dderbyn cymorth ariannol er mwyn cael mynediad at Grant Cinio Ysgol Am Ddim a Hanfodion Ysgol, cysylltwch ag Adran Budd-daliadau Cyngor Sir Fynwy.
Cefnogir yr Ymgyrch Costau Byw gan Dîm Datblygu Cymunedol Cyngor Sir Fynwy >