Skip to Main Content

Isod mae rhai o’r lleoedd y gallwch droi atynt yn lleol a all roi help a chymorth.

GIG 111 Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen sylw meddygol ar unwaith, neu mewn perygl dybryd, ffoniwch 999 neu ewch i’r adran damweiniau ac achosion brys. Os ydych chi neu rywun rydych chi’n ei adnabod angen gofal iechyd meddwl brys, ond nad yw’n peryglu bywyd, ffoniwch GIG 111 a dewiswch Opsiwn 2. Ffôn: 111


Mae Mind Sir Fynwy yn gofyn: “Ydych chi’n teimlo wedi eich llethu, yn bryderus, a yw eich emosiynau lan a lawr? Mae Mind Sir Fynwy yma i’ch cefnogi chi a’ch llesiant.” Mae Mind Sir Fynwy yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol a chyfeillgar yn cynnwys gwybodaeth, cyngor neu rywun i siarad am sut ydych yn teimlo. Cyngor ar fudd-daliadau, yn cynnwys help i wneud hawliadau newydd. Gwasanaeth cwnsela y telir amdano. Grwpiau llesiant rhithiol ar Zoom a hunan-gymorth Monitro Actif. Mae’r elusen hefyd yn cynnig cefnogaeth tenantiaeth a phrosiect i ffermwyr i gefnogi’r gymuned wledig.  


Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan wedi datblygu’r wefan hon gyda phartneriaid i ofalu am lesiant meddwl pobl sy’n byw ac yn gweithio yng Ngwent,  Melo Cymru.

Rydym wedi casglu’r adnoddau hunan-gymorth rhad ac am ddim gorau sydd ar gael a’u rhoi i gyd mewn un lle. Yma fe welwch gyrsiauapiaufideossainllyfrau a  gwefanau i roi mwy o gymorth. Mae’r holl adnoddau yn rhad ac am ddim ac mae rhai yn Gymraeg. Bydd yr adnoddau yn eich helpu i ddatblygu sgiliau newydd fydd yn eich cefnogi pan mae bywyd yn anodd. Gobeithiwn y byddwch yn dod o hyn i’r hyn yr ydych yn edrych amdano ac efallai ddarganfod pethau newydd.


Gall cynllun cyfeillio Community Connections gefnogi pobl ledled Sir Fynwy sy’n profi teimladau o unigrwydd. Gall y tîm gynnig galwad ffôn cyfeillgar i bobl o bob oed a all fod yn teimlo yn ynysig ac a fyddai’n hoffi sgwrs gyfeillgar.


Mae Byw Heb Ofn yn rhoi cyngor cyfrinachol defnyddiol sydd ar gael yn rhwydd ar amrywiaeth o faterion a all fod yn berthnasol i’ch sefyllfa. Mae ar agor 24/7, mae’n rhad ac am ddim ac ni fydd yn dangos ar eich biliau ffôn. Mae’r llinell gymorth yn rhoi help a chefnogaeth i unrhyw un sy’n profi neu sy’n adnabod rhywun sy’n profi cam-drin domestig a thrais rhywiol.  


Mae Cymorth i Ferched Cyfannol yn darparu gwasanaethau allgymorth ar draws Sir Fynwy i gefnogi menywod sydd wedi profi cam-drin domestig. Gall cymorth gynnwys help ymarferol gyda chynllunio diogelwch, cefnogaeth emosiynol a help i gael mynediad i wasanaethau eraill.


Dewis Cymru yw’r man i fynd os ydych eisiau gwybodaeth neu gyngor am eich llesiant neu eisiau gwybod sut y gallwch helpu rhywun arall.

Pan fyddwn yn siarad am eich llesiant, nid dim ond eich iechyd rydyn ni’n siarad amdano. Rydyn ni’n golygu pethau fel lle rydych chi’n byw, pa mor ddiogel a saff ydych chi’n teimlo, mynd mas ac o gwmpas, a chadw mewn cysylltiad gyda theulu a ffrindiau. Nid oes yr un ddau berson yr un peth ac mae llesiant yn golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Felly bydd Dewis Cymru yma i’ch helpu i ganfod mwy am yr hyn sy’n bwysig i chi”


Os ydych chi neu rywun sy’n byw gyda chi yn anabl:

Mae gan Brosiect Cyngor Anabledd Cymru dîm o staff a gwirfoddolwyr  ymroddedig a phrofiadol sydd yma i gynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth ar bob mater yn ymwneud ag anabledd. Mae’r Prosiect Cyngor Anabledd yn darparu Gwasanaeth Cyngor Anabledd helaeth sy’n cynnwys cyngor ar gyfer pobl anabl, eu teuluoedd a’u gofalwyr.


Gingerbread

Budd-daliadau | Gingerbread

Llinell Gymorth: 0808 802 0925

Help i Rieni Sengl

Mae amrywiaeth o fudd-daliadau a chredydau treth a all eich helpu i ddod â deupen llinyn ynghyd fel rhiant sengl. Mae’n bwysig gwybod sut mae pethau’n gweithio a gwybod beth fedrech fod yn ei hawlio i wneud yn siŵr nad ydych yn colli mas.

Rydym wedi casglu peth o’r cyngor a’r wybodaeth fwyaf perthnasol ar gyfer rhieni sengl i’ch helpu i ddeall sut mae budd-daliadau yn gweithio. Ac mae’n tîm cyngor yma i roi cyngor personol i chi drwy ein llinell gymorth os ydych angen hynny.


Mae ‘Basecamp’yn fudiad yng Nghas-gwent sy’n rhoi cwnsela wyneb i wyneb am ddim a chwnsela ar-lein fforddiadwy i unrhyw un Sir Fynwy o 16 oed lan. Gall pawb sy’n dymuno defnyddio’r gwasanaeth hunan-gyfeirio. Croesawn ymholiadau gan unrhyw un.