Llyfrau Darllen ar gyfer Disgyblion Dyslecsig
Rising Star (Nasen)- ffuglen am fampiriaid ac ati.
Download (Nasen) – bechgyn yn eu harddegau gyda gallu darllen isel – chwaraeon eithafol a cheir cyflym.
Ransom (Dark Man) – Ransom (Trailblazers) llyfrau ffeithiol, oedran darllen 6-7 ar bêl-droed, fformiwla 1, comedau, dinosoriaid ac ati.
Skyways
Llyfrau Rip Rap gan y cwmni Cumquatmay o Awstralia
Llyfrau Badger ar bobl enwog
Llyfrau gan SEN Press ee Matt gets Wise.
Cyfres llyfrau Hank Zipzer – ysgrifennwyd gan y dyslecsig enwog Henry Winkler
Darllen ac E-lyfrau
Mae Rising Stars yn cyhoeddi dewis eang o lyfrau darllen ac e-lyfrau ar gyfer rhai sy’n ei chael yn anodd ac yn amharod i ddarllen. O ffuglen gyffrous a llyfrau ffeithiol arddull cylchgrawn i ddramâu chwe rhan ar gyfer sesiynau darllen grŵp, bydd ein cyfres yn ennyn diddordeb ac yn herio.
Caiff ein llyfrau darllen eu datblygu’n benodol i ennyn diddordeb dysgwyr hŷn – yn arbennig fechgyn – ac maent yn rhoi sylw i:
Themâu a straeon addas i oedran
Lefel iaith wedi’i rheoli sy’n cefnogi rhai sy’n amharod ac yn cael anawsterau darllen
Deunydd cefnogaeth helaeth ar gyfer athrawon, cymhorthwyr addysgu a chymhorthwyr cefnogi dysgu
Llawer o gyngor a gweithgareddau ar gyfer sesiynau darllen dan arweiniad a dosbarthiadau ymyrryd darllen
Caiff ein darllenwyr eu holi ar Lyfrau Darllen Cyflym, gan alluogi ysgolion i integreiddio llyfrau darllen Rising Stars yn llawn i’w rhaglen ymyrryd darllen.
LawrlwythoRhestr o Gwisiau Rising Stars ar Lyfrau Darllen Cyflym.pdf
– Gweler mwy yn: http://www.risingstars-uk.com/subjects/reading-and-ebooks#sthash.XrrhdIXj.dpuf
Lawrlwytho – Llyfrau gwybodaeth cyffrous arddull cylchgrawn ar gyfer eich darllenwyr hŷn gwannaf
Cyfres ddiddorol o e-lyfrau ar gyfer bechgyn hŷn gyda gallu darllen isel. Mae’r gyfres hon o lyfrau’n defnyddio chwaraeon eithafol a cheir cyflym fel thema i gael disgyblion yn eu harddegau sy’n amharod a llai galluog yn ôl i ddysgu.
Mae pob eLyfr yn cynnwys stori fer, gyda lluniau du a gwyn; tudalennau gwybodaeth ffeithiol, a gyflwynir ar arddull cylchgrawn yn defnyddio ffotograffau lliw a geirfa addas a llyfryddiaeth i gefnogi dysgwyr sydd eisiau gwybod mwy am y pwnc.
Datblygwyd y gyfres mewn cysylltiad â NASEN, Cymdeithas Genedlaethol Anghenion Addysgol Arbennig.
Dalier sylw – Dim ond ar ffurf eLyfr y gellir eu lawrlwytho ar gael ar hyn o bryd.
Oedran diddordeb: 9-14+ oed
Oedran darllen: 6-7 oed
Lefel Cwricwlwm Cenedlaethol: Gweithio o fewn lefel 1 a thuag at lefel 2
Band llyfr: Oren: Lefel 6
– Mwy o wybodaeth yn:
Oedran Diddordeb 8 – 14 oed | Oedran Darllen 6 – 7 oed
Mae 36 llyfr darllen yng nghyfres Trailblazers ar hyn o bryd, pob un yn rhoi sylw i bwnc ffeithiol poblogaidd gwahanol. Mae’r llyfrau’n cynnwys ffeithiau a ffuglen, gan ddechrau gydag adran ddiddorol ar ganfod ffeithiau gyda stori hardd ar y pwnc i ddilyn.
Filiynau o flynyddoedd yn ôl fe wnaeth meteorit enfawr ladd yr holl ddinosoriaid. Darllenwch sut! A gaiff holl bobl y ddaear eu lladd yn yr un ffordd? Darllenwch beth allwn ei wneud. A oes bywyd ar y blaned Mawrth? Mae gwyddonwyr yn meddwl y gallai fod. Darllenwch pam..
Darllenwch stori arswyd am yr hyn allai ddigwydd: ‘Doom from Space’.