Skip to Main Content

Mae plant dyslecsig weithiau’n cael problemau gyda llawysgrifen.

Pan fyddant yn dysgu darllen, mae’n rhaid i blant yn gyntaf gysylltu siâp y gair ar y dudalen gyda’r sŵn a wnaiff. Yna, pan ddaw i ysgrifennu, mae’n rhaid iddynt ail-greu’r siâp hwnnw yn ôl ar bapur. Ar gyfer plant gyda dyslecsia, gall fod yn anodd iawn dadgodio’r patrymau hyn a gwneud y cysylltiadau. Fel canlyniad maent yn aml yn methu datblygu’r llif ysgrifennu awtomatig fydd yn eu helpu i fynegi eu hunain yn glir ac yn rhwydd mewn ysgrifen.

Argymhellir fod plant yn dysgu’r arddull ysgrifennu rhedeg

Fel arfer, pan maent yn dysgu ysgrifennu gyntaf, mae plant yn ‘printio’ eu llythrennau. Yna maent yn symud ymlaen i ysgrifennu ‘sownd’ maes o law. Ar gyfer plant gyda dyslecsia, gall dysgu dau arddull o lawysgrifen ychwanegu haen ychwanegol o anhawster ac achosi dryswch. Mae felly’n llawer gwell os gall plentyn ifanc ddysgu defnyddio un system o lawysgrifen o’r cychwyn cyntaf.

Caiff yr arddull llawysgrifen a argymhellir amlaf ei alw yn ysgrifen rhedeg. Ei nodwedd bwysicaf yw y caiff pob llythyren ei ffurfio heb dynnu’r bensel oddi ar y papur – ac fel canlyniad, caiff pob gair ei ffurfio mewn un symudiad sy’n llifo.

Manteision allweddol y system yma yw:

Drwy wneud pob llythyren mewn un symudiad, mae dwylo plant yn datblygu ‘cof corfforol’ ohoni, gan ei gwneud yn rhwyddach cynhyrchu’r siâp cywir;

Oherwydd bod llythrennau a geiriau yn llifo o’r chwith i’r dde, mae plant yn llai tebygol o roi llythrennau tu chwith (fel b/d neu p/q);

Mae gwahaniaeth cliriach rhwng priflythrennau a llythrennau bach;

Mae llif parhaus ysgrifennu maes o law yn gwella cyflymder a sillafu.

Ymarfer llawysgrifen rhedeg parhaus.

Os dymunwch ymarfer llawysgrifen gyda’ch plant, fe’ch cynghorir i ddefnyddio adnodd addysgu cymeradwy. Bydd hyn yn dangos i chi’n union sut i ffurfio’r llythrennau a’r ffordd orau o’u hymarfer. Mae gwybodaeth ddefnyddiol ar wefan National Handwriting Association www.nha-handwriting.org.uk/ gyda dalenni gwaith y gellir eu lawrlwytho i ymarfer adref gyda’ch plentyn.

Ar gyfer pob sesiwn gynnar ymarfer llawysgrifen, defnyddiwch lyfrau ymarfer a gynlluniwyd arbennig sydd â llinellau tywys, neu wneud eich llyfrau eich hun drwy fynd dros bob yn ail linell mewn llyfr ymarfer confensiynol gyda llinellau gyda phen neu bensel dywyll.

Anogwch eich plentyn i gydio mewn pensel yn gywir o’r cychwyn cyntaf, atgoffwch nhw am ar ddaliad pensil trybedd: “coesau llyffant gyda phensel yn gorffwys ar y pren”. Mae angen dangos i blant llaw chwith sut i roi’r papur ar ongl ac ysgrifennu’r llythrennau gyda’u llaw o dan y llinell yn hytrach na thrwy fachu eu llaw dros dop y llinell. O gael arweiniad ar y dechrau, gellir dysgu i blant llaw chwith i ysgrifennu yr un mor ddealladwy â phlant llaw dde.

Mae problemau hwyr gyda b/d yn gysylltiedig â chyfarwyddyd llawysgrifen da. Mae myfyrwyr gyda’r anhawster hwn fel arfer yn dechrau’r ddwy lythyren ar yr un pwynt ar y llinell, gan arwain at fethiant i wahaniaethu rhyngddynt. Mae hefyd yn fwy tebygol pan ddysgwyd sgript print arddull ‘pêl a ffon’. I rwystro’r anhawster yma, dylid dechrau pob plentyn gydag arddull cyn-rhedeg o lawysgrifen gan ei bod yn anos drysu llythrennau unigol ac yn haws symud i ysgrifennu ‘sownd’.

Mae gwahanol gripiau pensil a phenseli ar y farchnad a gynlluniwyd i helpu myfyrwyr ddal eu penseli’n iawn. Dylid osgoi beiros rhad nad ydynt ond yn ysgrifennu pan gânt eu dal yn fertigol i’r papur. Mae medru ymarfer sillafu ar fwrdd gwyn yn galonogol i fyfyriwr dyslecsig. Hefyd mae peniau y gellir eu rhwbio allan yn wych. Ystyriwch lethr ysgrifennu os yw plentyn cael poen arddwrn. Ar gyfer plentyn gyda syndrom Irlen gallwch brynu llyfrau llawysgrifen lliw arbennig gan Crossbow Education.

O’r dechrau cyntaf, mae’n hanfodol sefydlu’r ystum , safle papur a gafael pensil cywir:

Ystum

Mae’r myfyriwr yn eistedd gyda’i gefn yn syth neu’n gwyro ychydig ymlaen gyda’i draed yn gadarn ar y llawr. Ni ddylai top y ddesg fod mwy na dwy fodfedd uwchben y penelin pan fo’r fraich yn rhydd wrth ochr y myfyriwr. Os na fellir addasu’r ddesg, defnyddiwch obennydd a blwch neu stôl fel nad yw’r traed yn hongian. Dylai’r ddau benelin fod ar y bwrdd – galwn hyn yr ystum “gwrando a dysgu”.

Safle’r Papur

Mae’n rhaid i’r papur fod ar oleddf 45 gradd fel ei fod yn gyfochrog â’r fraich ysgrifennu. Gall y fraich wedyn symud yn rhydd o’r penelin wrth i’r ysgrifennu symud ar draws y dudalen. Caiff y llaw nad yw’n ysgrifennu ei chadw ar dop y dudalen i angori’r papur a’i symud i fyny – fel y rholer mewn teipiadur. Mae safle cywir yn neilltuol o bwysig i osgoi’r bachyn llaw chwith. Dywed Anna Gillingham fod pobl sy’n defnyddio’r sefyllfa bachyn yn ‘gofeb i anwybodaeth neu ddiogi athro’r plentyn’. Gall tapio neu beintio ‘V’ ar waelod y ddesg weithio i atgoffa. Dull arall yw cael llinellau cyfochrog ar oleddf yn ôl y llaw a ddefnyddir gan y plentyn.

Gafael yn y Bensel

Gafaelir yn y bensel rhwng y bawd a’r mynegfys, gyda’r bys canol yn ffurfio silff oddi tani. Dylai pen y bensel bwyntio at yr ysgwydd. Mae’r holl fysedd wedi plygu ychydig. Gelwir hyn y “gafael trybedd” a dyma’r mwyaf effeithiol.

Mae’n hanfodol cyfuno sillafu a llawysgrifen. Rydym wrth ein bodd yn defnyddio Spelling Mastery i ddysgu sillafu a llawysgrifen ar yr un pryd!

Mae defnyddio SOS (“Simultaneous Oral Spelling”) yn bwysig. Wrth i fyfyrwyr ffurfio pob llythyren wrth ysgrifennu gair, maent yn dweud enw’r llythyren (ac nid y sain) allan yn uchel. Dywedwch wrth y myfyriwr “Dwedwch wrth eich llaw bob amser beth i’w wneud”. Caiff hyn ei alw yn SOS ac mae’n cadarnhau ffurfio llythrennau.

Gallwch hefyd annog eich plentyn i wneud gweithgareddau eraill heblaw ysgrifennu i wella rheolaeth echddygol mân fel lliwio a phosau dot-i-ddot.

Peidiwch ymarfer ar bapur yn unig. Ceisiwch wneud siapau yn yr awyr, mewn tywod gyda ffon neu ar gefn person arall gyda’u bys. Gallech hefyd roi cynnig ar sialc ar y patio neu ewyn eillio ar hambwrdd.

Er bod plant fel arfer yn ysgrifennu mewn pensel yn yr ysgol, gadewch iddynt ymarfer llawysgrifen rhedeg gyda phennau ffelt a jel, sydd yn dosbarthu inc yn rhwydd?

Gall papur gyda llinellau helpu eich plentyn i sicrhau unffurfedd yn ei lawysgrifen, ond mae papur plaen hefyd yn dda ar gyfer ymarfer ysgrifennu rhedeg. Mae papur heb linellau yn llai cyfyngol ar gyfer meistroli’r llifo rhydd symudiad sydd ei angen ar gyfer ysgrifennu rhedeg.