Skip to Main Content

Bydd yna Drwyddedau Triniaethau Arbennig newydd a Thystysgrifau Adeiladau / Cerbydau Cymeradwy o dan y cynllun hwn yn ymddangos ar Gofrestr genedlaethol o’r 29ain Tachwedd2024. Bydd dolen i’r gofrestr yn ymddangos yma pan fydd y cynllun yn mynd yn fyw.

Mae cyfnod trosiannol o 9 mis ac yn ystod y cyfnod hwnnw gall busnesau cofrestredig presennol barhau i weithredu – fodd bynnag ni fydd y rhain yn cael eu dangos ar y gofrestr newydd nes bod trwydded newydd wedi’i chymeradwyo. O’r 29ain Tachwedd2024, mae gan y rhai sydd â chofrestriad presennol o dan Ddeddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 hyd at 28ain Chwefror2025, i wneud cais i’w Hawdurdodau Lleol am Drwyddedau Triniaethau Arbennig a Thystysgrifau Adeiladau / Cerbydau Cymeradwy.

Am gyfarwyddyd pellach, ewch i’r Diweddariad gan Lywodraeth Cymru .

Cofrestr Gyhoeddus ar gyfer Triniaethau Arbennig