Gallech fod angen caniatâd masnachu ar y stryd os ydych yn bwriadu gwerthu neu gynnig unrhyw eitem ar werth ar y stryd o fewn Sir Fynwy. Mae faniau byrgyr, faniau hufen iâ a stondinau dros dro i gyd angen caniatâd masnachu ar y stryd.
Mae pob stryd yn Sir Fynwy yn cynnwys tir preifat yn ‘strydoedd caniatâd’ ac mae’n rhaid i unrhyw un sydd eisiau gwerthu eitemau ar stryd yn gyntaf gael caniatâd masnachu ar y stryd os nad ydych yn masnachu dan un o’r eithriadau a restrir yn y Ddeddf.
Mae’r diffiniad o “stryd” yng nghyswllt “masnachu ar y stryd” yn cynnwys unrhyw ffordd, troedffordd, traeth neu ardal arall y mae gan y cyhoedd fynediad iddi heb dalu.
Beth sydd wedi ei eithrio o fasnachu ar y stryd?
Ni fyddwch angen caniatâd masnachu ar y stryd os ydych yn gwneud y canlynol:
- Masnachu gan berson sy’n gweithredu fel pedler dan awdurdod tystysgrif pedler. Yr heddlu, ac nid y cyngor, sy’n cyhoeddi Tystysgrifau Pedleriaid
- Unrhyw beth a wneir mewn marchnad neu ffair y cafodd yr hawl i gynnal hynny ei gaffael oherwydd grant (yn cynnwys grant tybiedig) neu a gafodd ei gaffael neu ei sefydlu oherwydd deddfiad neu orchymyn
- Masnachu mewn ardal picnic ar gefnffordd a ddarparwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dan Adran 112 Deddf Priffyrdd 1980
- Masnachu fel gwerthwr newyddion
- Masnachu a gaiff (i) ei wneud ar safle a ddefnyddir fel gorsaf lenwi betrol; neu (ii) ei wneud ar safle a ddefnyddir fel siop neu mewn stryd yn cyffinio ar safle a ddefnyddir felly ac fel rhan o fusnes y siop
- Gwerthu pethau, neu gynnig neu ddangos ar werth, fel dosbarthwr
- Defnyddio ar gyfer masnachu dan Ran VIIA Deddf Priffyrdd 1980 wrthrych neu strwythur a roddir ar, yn neu dros briffordd
- Gweithredu cyfleusterau ar gyfer hamdden neu luniaeth dan Ran VIIA Deddf Priffyrdd 1980
- Gwneud unrhyw beth a awdurdodir dan reoliadau a wnaed dan Adran 5 Deddf yr Heddlu, Ffatrïoedd, etc. (Darpariaethau Amrywiol) 1916
Cwestiynau cyffredin yn ymwneud â Masnachu ar y Stryd
C – Cefais fy ngwahodd i fasnachu mewn digwyddiad a drefnwyd, a wyf angen caniatâd masnachu ar y stryd?
A – Mae’n dibynnu os oes gan aelodau o’r cyhoedd fynediad i’r digwyddiad heb dalu. Bydd bob amser angen caniatâd masnachu ar stryd ar gyfer digwyddiad gyda mynediad am ddim. Nid oes angen caniatâd os yw pobl yn talu am fynd i fewn i’r digwyddiad. Os yw’n ddigwyddiad mynediad am ddim, gwiriwch gyda’r adran trwyddedu a pheidio tybio fod caniatâd gan y trefnwyr.
C – Sut mae gwneud cais am ganiatâd masnachu ar y stryd ar dir preifat?
A – Ar gyfer tir preifat bydd angen i chi roi caniatâd ysgrifenedig gan berchennog y tir gyda’r ffurflen gais ddechreuol. Gall perchennog y tir godi ffi ar wahân arnoch am rentu’r llain.
C – Rwyf eisiau masnachu mewn cilfan, a oes unrhyw leiniau wedi eu gosod/cymeradwyo gan Sir Fynwy?
A- Nid oes gan Sir Fynwy restr o leoliadau masnachu ar gael, caiff pob cais ei drin ar ei haeddiant. Fodd bynnag am resymau diogelwch, mae cilfan gyda gwahaniad clir o’r briffordd yn fwy ffafriol fel nad yw cwsmeriaid yn sefyll wrth ymyl y ffordd.
C – A allaf wneud cais ar gyfer y safle picnic ar yr A449 ger Twneli Trefynwy?
A – Mae’r ardal yn un Ardal Picnic ar Gefnffordd a gaiff ei chynnal gan Lywodraeth Cymru felly nid yw Sir Fynwy yn derbyn ceisiadau ar gyfer y safle yma.
C – Rwyf eisiau gwerthu bwyd twym yn hwyr yn y nos o fy fan byrgyr, a wyf angen unrhyw ganiatâd arall?
A – Ydych. Os bwriadwch werthu bwyd neu ddiod twym rhwng 11am a 5pm byddwch hefyd angen Trwydded Safle dan Ddeddf Trwyddedu 2013 gyda’r Caniatâd Masnachu ar y Stryd. Bydd y ddau ffi cais yn weithredol.
Sut mae gwneud cais am Ganiatâd Masnachu ar y Stryd?
Edrychwch ar y Polisi Masnachu ar y Stryd i’n helpu i drin ceisiadau yn gyflym a hefyd eich galluogi chi i wybod ar gam cynnar os yw’ch cais yn debygol o gael ei gefnogi.
Mae pedwar math o ganiatâd masnachu ar y stryd ar gael, fel sy’n dilyn:
- Caniatâd Diwrnod Masnachu ar y Stryd (un masnachwr)
- Caniatâd Lluosog Diwrnod Masnachu ar y Stryd (nifer o fasnachwyr)
- Caniatâd Blynyddol Masnachu ar y Stryd (un masnachwr)
- Caniatâd Lluosog Blynyddol Masnachu ar y Stryd (nifer o fasnachwyr)
Y ffi ar gyfer ceisiadau:
Caniatâd Diwrnod Masnachu ar y Stryd – £51
Caniatâd Lluosog Diwrnod Masnachu ar y Stryd – £140
Caniatâd Blynyddol Masnachu ar y Stryd – £478
Caniatâd Lluosog Blynyddol Masnachu ar y Stryd – £784
Gwneud cais ar-lein am Cais ar gyfer Caniatâd Masnachu ar y Stryd.
Beth sy’n digwydd nesaf?
Cyn belled na roddir sylwadau yn erbyn y caniatâd, caiff y caniatâd ei roi. Gallwn archwilio lleoliad y caniatâd arfaethedig cyn y caiff y cais ei ystyried. Caiff pob cais ei ystyried ar ei haeddiant ac mae gennym yr hawl i ohirio’r mater i’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio am benderfyniad. Nid oes unrhyw hawl apêl yn erbyn y penderfyniad a wneir gan y Pwyllgor.
I Adnewyddu eich Caniatâd Masnachu ar y Stryd
Unwaith y rhoddwyd Caniatâd Masnachu ar y Stryd (heblaw am ganiatâd diwrnod unigol) bydd yn parhau am gyfnod o 1 flwyddyn. Bydd angen i chi adnewyddu’r caniatâd cyn iddo ddod i ben.
Y ffi i adnewyddu y Caniatâd Masnachu ar y Stryd:
Caniatâd Blynyddol Masnachu ar y Stryd – £350
Caniatâd Blynyddol Lluosog Masnachu ar y Stryd – £493
Gwneud cais ar-lein am Cais i Adnewyddu’r Caniatâd Masnachu ar y Stryd.
I newid manylion enw a chyfeiriad y Deiliad Caniatâd Masnachu ar y Stryd
Gallwch wneud cais ar-lein i newid manylion enw a chyfeiriad y Deiliad Caniatâd Masnachu ar y Stryd. Y ffi i newid y manylion hyn yw £25.
I ildio’r Caniatâd Masnachu ar y Stryd
Os nad ydych mwyach yn dymuno masnachu gallwch fynd ar-lein i hysbysu’r Awdurdod a roddodd y caniatâd i ildio’r Caniatâd Masnachu ar y Stryd.
Yn lle hynny gallwch gysylltu â’r Adran Trwyddedu i gael ffurflen gais.
Mae gan yr awdurdod hwn ddyletswydd i ddiogelu’r arian cyhoeddus y mae’n eu gweinyddu, ac i’r diben hwn gall ddefnyddio’r wybodaeth a roddwyd gennych er mwyn atal a chanfod twyll. Gall hefyd rannu’r wybodaeth hon gyda chyrff eraill sy’n gyfrifol am archwilio neu weinyddu arian cyhoeddus ar gyfer y dibenion hyn. I gael mwy o wybodaeth, ewch i Gwybodaeth NFI ar wefan Cyngor Sir Fynwy
Cysylltu â’r Tîm Trwyddedu:
Adran Trwyddedu, Neuadd y Sir, Y Rhadyr, Brynbuga NP15 1GA.
licensing@monmouthshire.gov.uk
01873 735420