Sut olwg sydd ar bori diogel ar-lein?
Mae pawb ohonom eisiau’r rhyngrwyd.
A dweud y gwir, y dyddiau hyn, mae bron bawb ohonom angen y rhyngrwyd yn yr un modd ag rydym angen dŵr, nwy neu drydan.
Ond beth yn union ydyn ni’n ei roi yn ein cartrefi? Yn wahanol i linellau cyfleustodau i’r cartref, nid yw’r rhyngrwyd yn llif gwybodaeth hawdd ei drin na thryloyw. Nid yw ychwaith yn agos mor rhwydd ei reoleiddio.
Yn hollbwysig, gallai unrhyw golledion rhyngrwyd fod yn colli eich gwybodaeth bersonol sensitif allan o’r cartref, gymaint felly fel y gallai fod yn gollwng cynnwys peryglus i mewn i’ch cartref.
Ond y wir broblem yw na allwch ganfod bygythiadau ar-lein a gollwng drwy roi offer yn wal y gegin.
Felly mae cadw’r teulu’n ddiogel yn golygu cael yr wybodaeth gywir pan fyddwch yn gwneud penderfyniadau ar ddiogelwch rhyngrwyd eich teulu ac nid yw hynny bob amser mor rhwydd ag y dylai fod.
Yn ffodus mae mwy a mwy yn deall hyn a rhai yn gwmnïau yn cynorthwyo drwy greu lefel gywir ymwybyddiaeth y cyhoedd.
Yn bwysig mae hyn hefyd yn cynnwys darparwyr y rhyngrwyd eu hunain. Er enghraifft, mae Virgin Media wedi dechrau argymell dwy lefel o reolaeth rhieni. Un ar gyfer y cartref, o’r enw Web Safe, a’r llall ar gyfer y byd tu allan, o’r enw F-Secure.
Mae cynlluniau fel Switched on Families yn golygu fod diogelwch rhyngrwyd o’r diwedd yn cael ei sylw haeddiannol ym myd technoleg trwm heddiw.
Mae gan ddiogelwch rhyngrwyd ddwy lefel
Mae dwy lefel o ddiogelwch ar-lein y dylech fod yn ymwybodol ohonynt. Gall y bygythiad cyntaf ddod o’r hyb rhwydwaith yr ydych yn cysylltu ag ef er mwyn cael eich rhyngrwyd (megis Wi-Fi cartref neu gyhoeddus). Daw’r ail fygythiad o’r mathau o wefannau yr ydych yn ymweld â nhw.
Yn ffodus, gall cyfrifon Virgin Media yn awr ddewis cael Web Safe am ddim, fydd yn gweithredu ar unrhyw ddyfeisiau a gysylltir ag ef. Mae hyn yn caniatáu rheolaeth rhieni a diogelwch wrth ffynhonnell eich rhyngrwyd cartref. Caiff ei argymell yn fawr ar gyfer teuluoedd.
Felly, cyn i ni fynd i edrych ar sylfeini’r hyn i edrych amdano ar foroedd mawr rhyngrwyd cyhoeddus, gadewch i ni fynd drwy sut olwg sydd ar ddiogelwch Wi-Fi da.
Gwarchod Wi-Fi cyhoeddus v cartref
Gall Wi-Fi cyhoeddus fod yn beryglus oherwydd eich bod yn cysylltu â rhwydwaith na allwch reoli’r gosodiadau ar ei gyfer. Felly yn yr achos hwn nid yw’r bygythiad o reidrwydd o’r rhyngrwyd ei hun, yn hytrach na hynny daw’r bygythiad o’r rhai sy’n rhannu’r un rhwydwaith lleol. Gall cysylltu â rhai mannau poeth Wi Fi olygu y gall hacwyr twyllodrus gael mynediad i’ch dyfais symudol ac, felly, eich manylion. Ac mae’n debyg na fyddant hyd yn oed angen cyfrinair.
Pan gysylltwch â rhwydwaith fel arfer gofynnir i chi ddewis pa fath o rwydwaith yw. Os ydych yn cysylltu â hyb cyhoeddus yna dylech bob amser fynd i’r gosodiadau ‘cyhoeddus’ awtomatig neu gallwch newid neu wirio eich gosodiadau rhywdwaith â llaw i sicrhau nad ydych yn rhannu’n gyhoeddus dros rwydwaith.
Hefyd, dylech gofio fod rhai mannau poeth Wi Fi ffug – yn gyffredinol dim ond mewn lleoedd prysur gyda llawer o ymwelwyr naïf eisiau rhyngrwyd cyflym a rhwydd. Gwiriwch fod gan y man poeth Wi-Fi am ddim mewn gwirionedd a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwirio enw’r man poeth yn iawn.
Ar gyfer diogelwch ychwanegol y tu allan i’r cartref, gallwch roi cynnig ar VPN (‘virtual private network’). Gallwch ymchwilio’r pwnc hwn ymhellach a rhoi ystyriaeth iddo. VPN da i edrych arno yw Private Internet Access, sydd fel arfer yn ael graddiad eithaf uchel.
Fodd bynnag, mae eich rhwydwaith Wi-Fi cartref yr un mor beryglus ag un corff cyhoeddus os nad ydych yn ei sicrhau yn iawn. Mae angen i rwydweithiau cartref ddiogelu eu hybiau Wi-Fi gyda chyfrinair da. A pheidiwch ei gael unrhyw le lle gall un jacio-mewn gyda chebl rhwydwaith ychwaith.
Yn bwysig, os ydych newydd sefydlu hyb Wi-Fi newydd mae angen i chi ailosod y cyfrinair – mae gan lawer o’r rhain yr un cyfrinair ‘00000’ pan ddeuant allan o’r bocs. Ac mae darpar hacwyr yn gwybod hyn. Felly newidiwch ef.
Darllenwch y gosodiadau/cyfarwyddiadau ar gyfer eich hyb Wi-Fi am sut i ailosod y cyfrinair.
Gwirio diogelwch gwefan
Daeth diogelwch gwefannau ymhell. Mae’r HTTP hŷn yn fach o orllewin gwyllt, lle gall unrhyw un roi eu gwefan. Ar y llaw arall, mae gwefannau ar yr HTTPS newydd (mae’r ‘S’ yma’n sefyll am ‘secure’) angen prynu tystysgrif gan CA (awdurdod tystysgrif). Mae hyn yn golygu fod HTPPS yn lle llawer mwy diogel ar gyfer pori ar y rhyngrwyd. Yn sylfaenol, mae’n golygu eich cael eich lefelau amgryptiad yn cael eu dyblu.
Nawr, nid yw’r HTTP hŷn yn hollol anniogel, ond dylech fod yn fwy gofalus wrth eich defnyddio. Peidiwch derbyn diodydd gan ddieithriad ym mariau HTTP, a pheidiwch prynu dim o’r eli cyflawni gwyrthiau hynny ar HTTP.
Dyma wiriad cyflym ar gyfer diogelwch rhyngrwyd:
Peidiwch byth roi manylion bancio (ar gyfer siopa ac yn y blaen) neu unrhyw fanylion personol dros yr hen HTTP os nad yw gyda gwasanaeth neu gwmni y mae gennych ffydd llwyr ynddo.
Gwnewch yn siŵr fod gan eich safleoedd HTTPS y clo gwyrdd diogel yn eu hymyl yn y bar cyfeiriad. Gweler:
Os yw’ch porwr yn rhoi rhybudd ar safle HTPPS, yn dweud nad yw’r tystysgrifau yn cyfateb, yna peidiwch ei ddefnyddio. Os yw’n rhaid i chi, peidiwch gwneud hynny mewn ffordd sy’n rhoi eich manylion.
Cadwch eich mur tân ymlaen.
Peidiwch clicio’n ddiangen. Osgowch clickbait – yn hytrach chwiliwch ar gyfer y pwnc hwnnw ar wahân. Mae clicio ar ddolen wael yr un mor ddrwg â chysylltu ar ddolen ddrwg mewn e-bost gwe-rwydo.
Edrychwch yn y ffeithlun am restr wirio diogelwch rhyngrwyd.