Ym mis Medi 2023, daw diwedd ar Infuse – Gwasanaethau Arloesol ar gyfer y Dyfodol, gan gloi tair blynedd o fuddsoddiad i feithrin sgiliau, gallu a hyder gweision cyhoeddus mewn arloesi ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Mae’n hawdd anghofio pa mor unigryw yw Infuse, gan ddefnyddio dull cydweithredol ar draws deunaw o sefydliadau i fynd i’r afael â phroblemau mwyaf ein cymdeithas. I ni yn Infuse, dyma fu ein norm, mae rhannu sgiliau, gwybodaeth, syniadau a chefnogaeth mewn modd anhunanol wedi ein galluogi i adeiladu amgylchedd heb ei ail. Mae cydweithio drwy ddysgu tra’n cyfnewid gwybodaeth yn brofiad iachus i fod yn rhan ohono, rydym wedi gweithio’n gyson gyda phobl sy’n cael eu gyrru gan werthoedd sydd, er eu bod yn ansicr i ddechrau, er mwyn gweld ffordd well, ffordd wahanol i gyrraedd y nod.
Mae Infuse wedi darparu llwyfan i weision cyhoeddus a gweithwyr proffesiynol y trydydd sector fabwysiadu meddylfryd arbrofol a chymhwyso dysgu gan ddefnyddio gwahanol ddulliau i leihau risg a lleihau ansicrwydd. Gan gymryd i ystyriaeth y llu o heriau sy’n ein hwynebu ar hyn o bryd; mae’n fy ngwneud yn falch o ystyried y cant ac ugain o bobl yn ein rhanbarth sydd nawr yn fwy parod i ymdopi â’r ansicrwydd. Y math o bobl y byddwn i eisiau yn fy nhîm. Os nad ydych wedi cael y cyfle i fod yn aelod o Alumni Infuse, hoffwn eich annog i ddarllen ein Llawlyfr Infuse sy’n cyflwyno’r rhannau mwyaf effeithiol o’n rhaglen.
Mae’r weledigaeth ar gyfer dyfodol Infuse yn gyffrous, ynghyd â diddordeb sefydliadau newydd y tu allan i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd sy’n cysylltu â’n pwrpas. Bydd y gwaith dros yr ychydig fisoedd nesaf yn archwilio sut yr ydym yn mynd â phwrpas ac egwyddorion Infuse ymlaen i fodel cyflawni newydd sydd â ffocws pendant. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid megis Prifddinas-Ranbarth Caerdydd, Llywodraeth Cymru a llu o Awdurdodau Lleol. Gwyliwch y gofod hwn, i ddyfynnu Kellie Beirne (Prifddinas-Ranbarth Caerdydd): “Nid enw yw Infuse ond berf, symudiad nid rhaglen yw hwn”.
DIGWYDDIAD Cyfeiriadau Meddwl a Dulliau ar gyfer Arloesi mewn Gwasanaethau Cyhoeddus
Cynhaliwyd digwyddiad olaf Infuse, Cyfeiriadau Meddwl a Dulliau ar gyfer Arloesi mewn Gwasanaethau Cyhoeddus ar 20fed Medi yng Ngwesty’r Marriott yng Nghaerdydd.
Gan fod rhaglen Infuse yn dod i ben ddiwedd Medi 2023, roedd yn gyfle i ddathlu a myfyrio. Ar ôl treulio tair blynedd yn dylunio, darparu ac ailadrodd ein rhaglen arloesi Infuse, rydym wedi datblygu rhywfaint o ddysgu sylweddol am y meddylfryd sydd ei angen ar gyfer arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus, a’r arfau gorau i’n helpu i gyrraedd yno.
Daeth y digwyddiad â gweision cyhoeddus rhengflaen, uwch arweinwyr y sector cyhoeddus neu’r trydydd sector, ac unigolion sydd â diddordeb mewn datblygu rhaglen profi a dysgu arloesi eu hunain ynghyd, gan adael y bobl yn y digwyddiad wedi’u hysbrydoli i greu newid.
Yn ystod y digwyddiad lansiwyd Llawlyfr Arloesi Infuse . Y llawlyfr yw’r hyn sydd wedi ei ddysgu a’r ysbrydoliaeth a rennir gan raglen Infuse ac ynghyd â meddylfryd arloesol y cyn-fyfyrwyr, hwn fydd ein gwaddol wrth symud ymlaen.
“Yn Infuse rydyn ni’n credu bod a wnelo arloesi â gwerth, nid yw’n arf neu’n ymagwedd yn unig ond yn ffordd o feddwl. Ac nid ydym erioed wedi ei angen yn fwy nag yn awr.” Owen Wilce, Rheolwr Rhaglen Infuse.
Roedd y digwyddiad yn cynnwys sesiynau ar:
- Mae arloesi yn gyflwr meddwl, dan gadeiryddiaeth Owen Wilce, Rheolwr Rhaglen.
- Arbrawf ar gyfer arloesi mewn gwasanaethau cyhoeddus gan Robert Ashelford, Pennaeth Nesta Cymru.
- Gwersi o labordai dysgu Infuse gan James Lewis, Cyfarwyddwr Y Lab – Labordy Arloesedd Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.
- Blaenoriaethu arloesedd ar gyfer dyfodol y rhanbarth, ynghyd â siaradwyr gwadd: Alice Horn, Dadansoddwr Newid (Polisi ac Adolygiadau) o Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Kellie Beirne Prif Weithredwr Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
Roedd cyn-fyfyrwyr Infuse yn allweddol yn y digwyddiad a chymerasant ran mewn sesiynau holi ac ateb, gan rannu’r hyn y maent wedi dysgu am Infuse a’r effaith y mae wedi cael ar eu gwaith a’u datblygiad personol.
Llawlyfr
Mae’r hyn a ddysgwyd o’r rhaglen, ynghyd ag offer a dulliau allweddol, i’w gweld yn y Llawlyfr Infuse (fersiwn ddigidol).
“Mae arloesi’n allweddol wrth fynd i’r afael â rhai o’r heriau sy’n wynebu’r rhanbarth, a thrwy’r Rhaglen Infuse mae dros 120 o weision cyhoeddus wedi datblygu offer, dulliau, ymchwil a thystiolaeth i alluogi atebion arloesol i heriau mewn dwy thema, Cyflymu Datgarboneiddio a Chymunedau Cefnogol.
“Mae gwaddol Infuse o fewn y cyn-fyfyrwyr, sy’n frwdfrydig i rannu’r hyn a ddysgwyd gyda chydweithwyr a meithrin arloesedd o fewn eu sefydliadau eu hunain. Mae Alumni Infuse yn rhwydwaith arloesi cefnogol, gydag ystod amrywiol o safbwyntiau a phrofiadau, gan ddod â meddyliau craff at ei gilydd mewn un gofod i edrych ar y dyfodol, i edrych ar yr hyn a allai fod, a sut yr ydym yn cyrraedd yno.
“Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhan o Grŵp Llywio Rhwydwaith Infuse, cysylltwch â mi!”
Roedd Oishee Kundu yn Gydymaith Ymchwil ar y rhaglen Infuse, a oedd yn allweddol wrth gyflwyno sesiynau ar gaffael cynaliadwy.
Darllenwch ei blog >Edrych yn ôl: Myfyrio fel ymchwilydd caffael yn Infuse
Mae blogiau blaenorol i’w cael ar > Newyddion a’r Cyfrynagu
Roedd fy mhrofiad fel cydymaith Infuse yn hynod werthfawr ac mae wedi fy ngalluogi i feddwl yn wahanol ar sut i fynd ati i arloesi. Creodd Infuse awyrgylch iach a oedd yn bwydo chwilfrydedd, heriau caredig, twf a’r meddylfryd sydd angen ar gyfer y dyfodol ac ystyried pethau mewn ffordd wahanol.
“Roedd gen i ddiddordeb arbennig yn y labordy caffael a sut y gallai awdurdodau lleol harneisio pethau fel gwerth cymdeithasol a strategaethau ac amcanion caffael ar y cyd.
“At hyn, mae Infuse wedi newid nid yn unig fy mhrosesau meddwl sy’n ymwneud ag arloesi ond hefyd sut wyf yn ymdopi, mae gen i ddiwrnod arloesi gyda fy nhîm i gymryd amser i aros ac edrych ar yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd a herio’r sefyllfa bresennol ar gyfer y dyfodol.”
Luke George
Swyddog Gwerth Cymdeithasol, Cyngor Dinas CaerdyddYn y newyddion: Gwaddol Rhaglen Infuse ar gyfer arloesi parhaus
Os oes unrhyw gwestiynau gennych ar gyfer tîm Infuse, e-bostiwch: infuse@monmouthshire.gov.uk |