Mae adeiladu rhwydwaith cynaliadwy a chefnogol ar gyfer arloeswyr gwasanaethau cyhoeddus wedi bod yn un o amcanion allweddol y rhaglen Infuse. Mae’r pwysigrwydd o fedru estyn allan a chydweithio ag unigolion o’r un anian fod yn hollbwysig wrth gyflwyno arloesedd yn y sector cyhoeddus.
“Nod Alumni Infuse yw adeiladu rhwydwaith arloesi cefnogol gydag ystod amrywiol o safbwyntiau a phrofiadau. Mae’n ymwneud â dod â meddyliau craff at ei gilydd mewn un gofod i ystyried y dyfodol, i ystyried ar yr hyn sy’n bosib, a sut yr ydym yn cyrraedd yno.”
Owen Wilce
Rheolwr Rhaglen Infuse.Rhwydwaith Alumni Infuse
Mae Infuse wedi dod ag aelodau Alumni o’r gwahanol garfannau ynghyd yn gyson mewn digwyddiadau a thrwy ddefnyddio offer digidol. Y nod yw adeiladu rhwydwaith cymorth rhyngweithiol hirdymor o amgylch arloeswyr unigol. Mae aelodau sy’n cynrychioli sefydliadau o bob rhan o’r rhanbarth i gyd yn dod ag arbenigedd a safbwyntiau gwahanol.
- 117 o aelodau o Garfannau Alffa, Un, Dau a Thri, ar draws Prifddinas-Ranbarth Caerdydd.
- Datblygu grŵp llywio i gadw ffocws rhwydwaith yr Alumni yn y tymor hir.
- Parhau i gydweithio.
- Dathlu amrywiaeth o ran barn a safbwyntiau.
- Cynyddu a datblygu’r hyn a ddysgir o’r rhaglen Infuse.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn siarad am eu grŵp Alumni Mewnol a gweledigaeth y grŵp yn y tymor hir.
Mae Caerffili wedi nodi’r cyfle i gadw eu cydweithwyr sydd wedi cwblhau Infuse gyda’i gilydd a’u cefnogi. Yn ogystal, mae cysylltu’r Alumni Infuse â’r heriau strategol allweddol ar draws y sir fel eu bod yn medru defnyddio eu sgiliau, eu dulliau gwaith a’u meddylfryd o ran arloesi. Mae perthynas wedi’i meithrin a diwylliant cefnogol wedi bod yn ffocws.
- Cyfarfodydd bob 6 wythnos.
- Aelodau o Garfannau Un, Dau a Thri.
- Hyrwyddwr Infuse yn cymryd rhan amlwg.
- Cefnogaeth y Tîm Rheoli Corfforaethol, gan helpu i gael gwared ar rwystrau a darparu ffocws ar y prosiect.
- Gweithredu fel ‘Melin Drafod’ ar gyfer prosiectau a heriau strategol.
- Ehangu, datblygu a rhannu’r hyn a ddysgwyd gan Infuse ledled Caerffili.