Skip to Main Content

InFaCT –Integreiddio Teuluoedd a Chymunedau

Yma i helpu grymuso teuluoedd. Eich cysylltu chi a’ch teulu gyda gwasanaethau a chyfleoedd yn y gymuned.

Sut y gallwn helpu

Gall InFaCT eich cysylltu chi, eich teulu a’ch plant gyda gwasanaethau, gweithgareddau a chyfleoedd perthnasol o fewn y gymuned. Ein nod yw grymuso teuluoedd drwy ddynodi anghenion a phroblemau ar y cyfle cynharaf, a chryfhau cymunedau drwy gefnogi syniadau newydd a dod â phobl o’r un anian ynghyd.

Rhai enghreifftiau o bethau y gwnaethom helpu gyda nhw yn y flwyddynn ddiwethaf:

  • Gwybodaeth o grwpiau lleol a chyfleoedd, gweithgareddau a hobïau.
  • Bywyd cartref a chyllid, derbyn y budd-daliadau cywir, grantiau, banciau bwyd, talebau bwyd neu oergelloedd cymunedol a help gyda phryderon costau byw.

Anghenion llesiant a phersonol tebyg i gyrchu gwasanaethau cwnsela, pryderu am fod yn ynysig, gwybodaeth o wasanaethau anabledd, addysg bellach, gwirfoddoli a chyfleoedd hyfforddi.

Yr hyn mae pobl yn ei ddweud am ein gwasanaeth

“Gwasanaeth gwych, y lle i fynd ar gyfer cymaint o gwestiynau a help gyda theuluoedd ac ysgolion. Diolch i chi am ecih cefnogaeth”.

“Cefnogaeth effeithiol a chyflym”.

“Mae cyfathrebu clir am gynnig gwasanaeth ac adnoddau, medru trafod cyfleoedd am gymorth wyneb a wyneb yn ddefnyddiol”.

“Mae ganddynt wybodaeth dda o’r hyn oedd eb nin teulu ei angen”. “Maent yn gymaint o help ac agos atoch fel cyswllt i’n helpu i gefnogi ein teuluoedd”.

Am y Tîm

Katie Shannon

Cydlynydd Cyswllt Teulu a Chymuned

Rwy’n mwynhau’r cyfle i rwydweithio ar draws y sir gyda nifer o grwpiau, gwasanaethau a mudiadau gwirfoddol a gallaf wedyn gysylltu teuluoedd gyda nhw i gefnogi eu hanghenion. Nid oes yr un dau ddiwrnod byth yr un fath ac rwy’n cael cyfle i gwrdd â phobl wych. Tu allan i fy ngwaith rwy’n treulio fy amser gyda fy nheulu gan fy mod yn fam brysur i dri o blant.

Nathan Meredith

Arweinydd Pobl Ifanc a Chymunedau

Rwy’n gwnselydd fy hun ac yn ei theimlo’n fraint fawr parhau i fod yn rhan o’n holl waith gyda phobl ifanc. Cerddoriaeth a’r awyr agored yn gyfartal yw’r pethau sy’n fy nghadw i wenu.

Mae gan y tîm sylfaen sgiliau amrywiol mewn gweithio gyda phobl ac agwedd drugarog yn ganolog iddo.

Cysylltwch â ni

Mae ein tîm yn gweithio ledled y sir a gallant fod ar gael ar gyfer sgwrs wyneb i wyneb yn y llu o leoliadau cymunedol a hybiau sydd ar gael.

Gallwn hefyd siarad gyda chi dros y ffôn neu ar-lein.

? infact@monmouthshire.gov.uk

?01291 691 330