Skip to Main Content

ID Pleidleisiwr

P’un ai oes gennych ID i’w ddangos mewn gorsaf bleidleisio neu beidio, mae’n rhaid i chi sicrhau eich bod wedi cofrestru i bleidleisio. Gallwch gofrestru i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestruibleidleisio. Os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio, ni fyddwch yn medru pleidleisio yn yr etholiad hyd yn oed os oes gennych ddulliau derbyniol o ID.

O fis Mai 2023 ymlaen, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos ID ffotograffig wrth bleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Angen ID PleidleisiwrDim angen ID Pleidleisiwr
Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a ThrosedduEtholiadau ac Is-etholiadau Cyngor Lleol
Etholiadau Senedd y DUEtholiadau Senedd Cymru

Pa ID sydd angen i bleidleiswyr ddod gyda nhw?

ID ffotograffig derbyniol ID na chaiff ei dderbyn
Pasbort
Trwydded Yrru Ffotograffig yn cynnwys trwydded yrru dros dro
Bathodyn Glas
Dogfennau mewnfudo
Cerdyn PASS
Pas Teithio Rhatach gyda llun arno
Cerdyn ID Cenedlaethol

Cerdyn Railcard
ID myfyrwyr
Llungopïau o ddogfennau
Copïau electronig o ddogfennau (h.y. ffotograffau o ID ar ffôn)



Nid yw’n rhaid i’r ID ffotograffig fod yn gyfredol cyhyd â’i fod y ffotograff yn dal yn edrych yn debyg i chi.

Mae rhestr lawn o ba ddulliau o ID ffotograffig sydd yn dderbyniol ar gael yma.

Beth os nad oes gennych ID ffotograffig?
Os na fedrwch ddangos un o’r dulliau ID sydd eu hangen yn y ddeddfwriaeth, gallwch wneud cais am ddogfen ID pleidleisiwr yn rhad ac am ddim, a elwir yn Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr.

Gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yma

Bydd angen i chi fod wedi cofrestru i bleidleisio cyn y gallwch wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr. Os na wnaethoch hynny yn barod, gallwch gofrestru i bleidleisio yma.

I wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn rhad am ddim, bydd angen i chi ddarparu ffotograff digidol diweddar a’ch rhif Yswiriant Gwladol.

Mae angen y rhif Yswiriant Gwladol i sicrhau mai chi yw’r person sy’n gwneud cais am y dystysgrif a chaiff ei wirio ar gronfa ddata yr Adran Gwaith a Phensiynau. Os nad yw’r rhif Yswiriant Gwladol yn cyfateb, bydd yn rhaid i bleidleiswyr roi tystiolaeth ddogfennol i gefnogi (cyfriflenni banc, biliau treth gyngor, biliau cyfleustod ac yn y blaen) cyn y gellir prosesu’r cais.

Bydd angen i bleidleiswyr gyflwyno ffotograff fel rhan o’r broses gais. Dim ond fel ffeil o ffotograff a dynnwyd yn flaenorol y gellir lanlwytho ffotograffau ac ni fedrir eu tynnu fel rhan o’r broses gais yn yr un ffordd ag ar gyfer ceisiadau eraill tebyg i basbort.

Mae hefyd reolau llym mewn deddfwriaeth am ba fath o ffotograff y gellir ei dderbyn i gymeradwyo’r cais.

Mae’n rhaid i’r ffotograff digidol fod

  • yn glir ac mewn ffocws
  • mewn lliw
  • wedi ei dynnu yn erbyn cefndir golau plaen
  • yn wirioneddol debyg i chi heb unrhyw Photoshop na hidlen
  • o leiaf 600×750 picsel
  • ffurf JPG, PNG neu GIF – dim llai na 50KB, dim mwy na 20MB

Mae’n rhaid i’r ffotograff fod:

  • ohonoch yn wynebu ymlaen ac yn edrych yn syth ar y camera
  • ohonoch chi ar ben eich hun, heb unrhyw eitemau neu bobl eraill
  • ohonoch gyda mynegiant wyneb plaen
  • gyda’ch llygaid ar agor ac yn weladwy, heb eu cuddio â gwallt
  • heb sbectol haul, ond mae sbectol arferol yn iawn os ydych yn eu gwisgo fel arfer
  • heb unrhyw orchudd pen (ar wahân i resymau crefyddol neu feddygol)
  • heb ‘lygaid coch’, cysgodion ar yr wyneb, nac adlewyrchiadau

Y dyddiad cau i wneud cais am dystysgrif pleidleisiwr yw 5pm 6 diwrnod gwaith cyn diwrnod pleidleisio (ac eithrio gwyliau banc).

Caiff tystysgrifau eu hanfon yn syth at gyfeiriad cofrestredig y pleidleisiwr os nad yw’r pleidleisiwr yn gofyn iddyntei hanfon at Neuadd y Sir, Brynbuga i’w casglu am reswm penodol.

Beth os ydych eisiau pleidleisio drwy’r post?

Ar hyn o bryd nid oes angen i bleidleiswyr sy’n pleidleisio drwy’r post roi ID pan fyddant yn gwneud cais i bleidleisio drwy’r post, ond bydd angen i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod ar y cais ac wrth ddychwelyd y bleidlais post i ddilysu mai chi a lenwodd y bleidlais post.

Mae’r gofynion hyn yn debyg o newid yn y dyfodol a bydd angen i bleidleiswyr roi ID wrth wneud cais am bleidlais post, ond ni chafodd dyddiad ei gadarnhau ar gyfer y newid.

Beth os oes etholiad cyfun lle mae angen ID pleidleisiwr ar gyfer un etholiad ond nid y llall?

Mae llywodraethau wedi ymrwymo i beidio cyfuno etholiadau ar yr un diwrnod ond gall fod amgylchiadau lle na fedrir osgoi hynny. Lle mae hynny’n digwydd, bydd angen i bleidleiswyr roi ID i dderbyn y ddau bapur pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Os cyrhaeddwch i bleidleisio heb ID, dim ond i derbyn y papur pleidleisio ar gyfer yr etholiad nad oes angen ID y bydd gennych hawl a bydd angen i chi ddychwelyd gyda ID i gael y papur/au pleidleisio arall.